Cyhoeddwyd: 21 Mai 2024

Roedd yn bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru dderbyn grant o £5,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Toyota Manufacturing UK.

Ers 2012 mae'r Elusen wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn gwerth dros £69,000 mewn grantiau gan yr ymddiriedolaeth.

Bydd yr arian yn helpu i dalu am y costau sy'n gysylltiedig ag ariannu peilot hofrennydd yng Ngogledd Cymru, a bydd yn ariannu peilot am bum diwrnod.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy'n cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'r peilotiaid yn chwarae rôl gritigol ym maes gwasanaethau meddygol brys drwy gludo'r tîm gofal critigol at gleifion sy'n dioddef o salwch neu anaf sy'n bygwth bywyd neu ran o'r corff. Unwaith y byddant yn cyrraedd y safle, bydd y clinigwyr sy'n hynod fedrus yn cyflawni gofal critigol uwch - a all gynnwys triniaethau o safon ysbyty fel trallwysiadau gwaed a rhoi anesthesia. Rhan o rôl y peilot yw gofalu am yr hofrennydd pan fyddant ar leoliad a sicrhau eu bod yn barod i ymadael unwaith y bydd y timau meddygol wedi sefydlogi'r claf.

Pan fydd angen, bydd y peilotiaid hefyd yn cludo cleifion i'r ysbyty mwyaf addas ar gyfer eu salwch neu eu hanafiadau. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Fel rhan o rôl y peilot, byddant yn cwblhau hyfforddiant trwyadl er mwyn sicrhau eu bod yn dra chymwys i ymdrin â'r heriau unigryw sy'n gysylltiedig â galwadau. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd tua saith mlynedd i ddod yn beilot ambiwlans awyr.

Mae angen i elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

Dywedodd Hannah Mitchell, Swyddog Grantiau ac Ymddiriedolaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae ein peilotiaid yn gweithio'n agos gyda'r criwiau meddygol i gyflawni un o'r gweithrediadau ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn y DU. Maent yn gyfrifol am sicrhau addasrwydd yr hofrennydd i hedfan, yn cwblhau archwiliadau cyn hedfan, mynd i'r afael ag unrhyw faterion cynnal a chadw, a chydweithredu â'r criwiau ar y ffyrdd i gadw'r hofrennydd yn ei gyflwr gorau posibl.

"Bydd y grant hwn yn ein galluogi i gyrraedd y cleifion sydd angen ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Mae'r cymorth parhaus y mae'r Elusen wedi ei gael gan Toyota Manufacturing UK ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn anhygoel. Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y rhodd hwn o £5,000 a fydd yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywydau."

Aeth Debra Sima,sy'n Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol i seremoni ddathlu yn Ffatri Peiriannau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy i dderbyn y siec ar ran Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Tim Freeman, Ymddiriedolwr a Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli yn Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd: "Hon yw ein blwyddyn orau erioed o safbwynt codi arian, ac rydym yn hynod o falch o fod yn cefnogi achosion anhygoel, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n elusen wych sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau lleol."

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.