Mae Cynghorydd Sir Ceredigion wedi codi dros £2,100 i Ambiwlans Awyr Cymru i ddiolch i'r gwasanaeth am helpu i achub bywyd ei brawd iau. 

Cwblhaodd Ceris Jones, 27 oed, Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, 1 Hydref gyda'i theulu cyfan yn ei chefnogi ar hyd y ffordd. 

Yn eu plith, roedd Calfyn ei brawd, 24 oed, a oedd wedi teithio o gartref y teulu yn Nihewyd ger Aberaeron, i gefnogi ei chwaer yn ei ras hanner marathon cyntaf.  

Cafodd Ceris ei hysbrydoli i redeg ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i Calfyn fod mewn damwain ym mis Chwefror 2022 a chael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle treuliodd 17 diwrnod ar Ward Gofal Uwch Niwrowyddoniaeth.    

Dywedodd Ceris, Cynghorydd Plaid Cymru, sy'n cynrychioli ward Llanfihangel Ystrad, bod cwblhau'r hanner marathon o fewn 2 awr a 44 munud wedi bod yn gyflawniad emosiynol. 

Dywedodd: "Roeddwn yn hynod nerfus i ddechrau, ond hefyd yn llawn cyffro am fod yr awyrgylch yn anghredadwy. Bythefnos cyn y ras, dechreuais ddioddef o dendonitis yn fy mhigyrnau ac roeddwn yn poeni y byddai'n cael effaith ar y ras. Teimlais ychydig o boenau ar hyd y ffordd ond roeddwn yn gwybod nad oedd rhoi'r gorau iddi yn opsiwn, ac er bod poen ofnadwy yn fy mhigyrnau, dyfalbarhais. Yn ffodus, gwnaeth yr awyrgylch fy annog ymlaen. 

"Ar y seithfed milltir, dechreuais deimlo'n emosiynol a dechreuais feddwl am fy rhesymau dros redeg yr hanner marathon. Roeddwn yn meddwl am ddamwain fy mrawd a gwaith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru, a rhoddodd hwb i mi barhau ymlaen. Gwelais bobl eraill yn gwisgo fest rhedeg yr Elusen a rhoddodd hynny hwb arall i mi, o wybod ein bod ni i gyd yn codi arian i'r un achos.

"Roedd croesi'r llinell derfyn yn deimlad anhygoel, ond hefyd yn rhyddhad. Roedd gwybod fy mod wedi ei gwblhau yn fy ngwneud i'n emosiynol iawn. Roedd Calfyn yn gefnogol ac rwy'n gwybod ei fod yn falch ohonof yn ei ffordd ei hun, roedd yn fodlon tynnu llun gyda fi sy'n ddigwyddiad prin! 

"Rwy'n gwybod ei fod yn ddiolchgar am yr holl ddigwyddiadau codi arian, ac mae'n gwerthfawrogi pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth i bobl Cymru. Mae'n ddiolchgar am yr hyn a wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru iddo, ac am helpu i achub ei fywyd."

Dywedodd y fam i un, sydd hefyd yn gweithio fel Ffisiolegydd Cardiaidd yn Ysbyty Bronglais, ei bod y ddiolchgar i bawb a roddodd arian, a diolchodd hefyd i Rhys, ei hyfforddwr personol o Cattle Strength am ei gefnogaeth.


Dywedodd: "Rwy'n hynod falch o'r hyn rwyf wedi ei gyflawni, ac rwyf wedi cyn-gofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn barod. Ni allaf gredu mai prin yr oeddwn yn gallu rhedeg ar yr adeg hon y llynedd, heb sôn am redeg hanner marathon.  Mae pawb wedi bod mor hael â'u rhoddion, ac rwy'n gwerthfawrogi'r cymorth rwyf wedi'i gael gan bawb.

“Fel teulu rydym wedi gweld droston ni ein hunain y gwaith hanfodol y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud, a byddwn yn ddyledus iddyn nhw am byth. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen y gwasanaeth arnoch neu pwy fydd y nesaf a fydd ei angen.

“Galwyd am ddau hofrennydd at fy mrawd pan gafodd ei ddamwain ac efallai na fyddai'n fyw heddiw neu wedi gwella cystal heb y gwasanaeth hwn.” 

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau i Ceris am redeg ei hanner marathon cyntaf ar gyfer yr Elusen. Mae'n gyflawniad personol anferth, a dylai fod yn falch iawn ohoni ei hun. "Rydym yn falch o glywed fod Ceris wedi cael diwrnod da, yn ogystal â chodi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru a helpodd i achub bywyd Calfyn ei brawd.

"Bydd rhoddion fel un Ceris yn helpu i sicrhau y bydd mwy o bobl fel Calfyn yn cael eu helpu gan ein Helusen sy'n achub bywydau ledled Cymru.    

I gefnogi Ceris, rhowch arian iddi ar ei Thudalen Just Giving, Ceris Jones is fundraising for Wales Air Ambulance Charitable Trust (justgiving.com)