Mae cwpl o Bowys wedi codi dros £2,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy gwblhau taith gerdded 247 milltir noddedig.

Penderfynodd Richard a Julie Siddons, o Lanidloes, roi her iddyn nhw eu hunain drwy gerdded ar hyd Taith y Penwynion. Nid yn unig i godi arian i'r elusen sy'n achub bywydau, ond i gwblhau cyfres o deithiau cerdded oddi ar restr dymuniadau Richard.

Bu Richard, 62 oed, a Julie, 59 oed, a Finn y ci yn gwersylla yn eu cartref modur, gan gerdded am 18 diwrnod yn olynol, a gwerthfawrogi lleoliadau hanesyddol a phrydferth yr ardal.

Gan ddechrau yn nhref farchnad Settle yng Ngogledd Swydd Efrog, cerddodd y cwpl ar hyd ochr ddwyreiniol y Penwynion drwy Ddyffrynnoedd Swydd Efrog gan fynd ar hyd rhannau o Swydd  Durham tcyn cyrraedd Wal hanesyddol Hadrian.

Dilynwyd y tirnod am 21 milltir ychwanegol cyn gwneud eu ffordd i lawr ochr orllewinol y Penwynion, gan deithio i lawr Dyffryn Eden ac yna'r Howgill Fells cyn cyrraedd yn ôl i Settle.

Dywedodd Richard, sy'n gweithio'n rhan amser fel coediwr, ei fod yn un o'r llu o lwybrau roedd yn awyddus i'w cerdded.

Dywedodd y tad i ddau o blant: "Arferwn fynd ar lawer o deithiau cerdded hir a gwersylla pan oeddwn yn ifanc, ond doeddwn i ddim wedi cerdded ers degawdau. Tua chwe mlynedd yn ôl, awgrymodd Julie y dylwn i ddechrau cerdded eto a mynd ar rai o'r teithiau roeddwn wastad yn siarad â hi amdanynt.

"Gwnaethom gwblhau Ffordd y Penwynion yn 2020, ond dro hyn dewisom Daith y Penwynion, sydd ddim mor adnabyddus ac yn fwy diarffordd.

"Bob blwyddyn rydym yn ceisio mynd ar daith gerdded, ond gwnaethom benderfynu dro hyn i wneud un ar gyfer Elusen. Gwnaethom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru am ein bod yn deithwyr cerdded sy'n ymweld ag ardaloedd anghysbell, sy'n gwneud i chi gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth."

Dywedodd Richard fod ef a'i wraig Julie, sydd wedi gweithio yn Co-op Llanidloes am bron i 30 mlynedd, wedi bwriadu cerdded   15 milltir bob dydd ar gyfartaledd, gyda'r hiraf yn 24 milltir a'r byrraf tua naw milltir.

Dywedodd: "Y bwriad oedd cerdded bob dydd ond am bellteroedd gwahanol, er mwyn i ni allu gweld cymaint o'r ardal â phosib a mwynhau ar yr un pryd, yn hytrach na rhuthro.  Julie sydd wastad yn gyfrifol am y logisteg.

“Cerddodd ein merch Rachael a'i phartner gyda ni am ddau ddiwrnod, a daeth fy nghefnder i fyny o Leeds. Doeddwn i ddim wedi'i gweld hi ers amser hir felly roedd hynny'n braf iawn. Fwy na thebyg, honno oedd y daith byrraf, ac mae'n siwr mai dyna'r un a gymerodd fwyaf o amser i'w chwblhau am ein bod yn siarad cymaint.

“Un uchafbwynt oedd Wal Hadrian, sydd wastad yn brofiad braf ar y diwedd, wrth ddod dros ddau o Dri Chopa Swydd Efrog. Gallaf nawr ddweud fy mod wedi cerdded y tri chopa mewn tair blynedd. Roedd yr haul allan, a roedd yn ddiwrnod clir, felly roedd yn diweddglo gwych.

“Mae'n ardal dwi'n ei mwynhau'n fawr, ac mae'r golygfeydd yn hyfryd. Roedd yn gyfle i weld y Penwynion ymhellach ac roedd y pellter a'r her yn dda."

Gosododd y cwpl darged codi arian o £500 ar eu tudalen JustGiving ond gwnaethant lwyddo i gasglu mwy na hynny, gan godi dros £2,000 gan gynnwys Cymorth Rhodd i'r Elusen.

Dywedodd Richard: "Mae'r bobl wedi bod yn hynod gefnogol, ac rydym yn falch iawn o fod wedi codi cymaint i Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd gan y bobl ddiddordeb mawr yn ein taith gerdded ac roeddent yn dilyn Julie ar Facebook i weld lle roedden ni bob dydd."

Mae Richard wedi dechrau meddwl am ei daith gerdded nesaf yn barod. Mae'n gobeithio mynd i'r afael â Ffordd Cambria, sy'n daith gerdded heriol sy'n mynd o Gaerdydd i Gonwy dros y prif fynyddoedd i gyd, gan gynnwys y Mynydd Du, ar draws y Bannau, Fannau Sir Gaerfyrddin, dros Gadair Idris ac i fyny'r Wyddfa cyn mynd i lawr am Gonwy.

Dywedodd: "Mae gen i ychydig o dan 10 taith gerdded ychwanegol yr hoffwn fynd arnynt ac er bod hyn yn heriol, byddai'n wych cael croesi un arall oddi ar fy rhestr, tra bydd gen i'r gallu i wneud hynny."

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y  Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.