Cyhoeddwyd: 20 Mai 2024

Cododd cefnogwyr ymrwymedig Ambiwlans Awyr Cymru lawer o arian yn ystod digwyddiad codi arian Coffi a Chacen cyntaf yr elusen.

Galluogodd y digwyddiad mis o hyd, a oedd yn cyd-daro â phenblwydd yr Elusen yn 23 oed, i bobl gwrdd yn rhithwir neu wyneb yn wyneb, a chodi dros £19,000.

Mantais y digwyddiad codi arian oedd gweld pobl o bob oedran yn pobi cacennau yn ogystal â chynnal gwahanol ddigwyddiadau ledled y wlad. Mae ymgyrch codi arian Coffi a Chacen yn galluogi cyfranogwyr i ddewis amser a lleoliad sy'n addas iddynt. Roedd yn gyfle hyfryd i ddod ynghyd gyda ffrindiau neu deulu i gael coffi a chacen, tra'n codi arian.

Ymhlith y rhai a gododd arian roedd ysgol gynradd yn y gogledd - Ysgol Bro Llifon, a gododd dros £500.

Cynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgol hefyd i greu baneri a fyddai'n cynrychioli gwaith Ambiwlans Awyr Cymru. Cafodd y baneri eu harddangos yn y neuadd yn ystod y cyfnod cyn y digwyddiad, ac roeddent yn ganolbwynt yn ystod ymgyrch codi arian Coffi a Chacen.

Dywedodd Swyn Maelor, pennaeth Ysgol Bro Llifon: "Aeth pob dosbarth ati i bobi amrywiaeth o gacennau ar gyfer y prynhawn. Anfonwyd llythyrau at y rhieni a rhoddwyd nodyn ar gyfryngau cymdeithasol yr ysgol yn gofyn am eu cefnogaeth.

"Cafodd holl blant yr ysgol y cyfle i gael diod a theisen y prynhawn hwnnw. Nid oeddem yn siŵr faint o rieni a fyddai'n troi i fyny, ond mewn dim o amser roedd torf ohonynt o amgylch yr ysgol. Roeddem wedi rhyfeddu ar yr holl gefnogaeth."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.

Cynhaliodd Ffion Griffiths, o Fodedern, ddigwyddiad yn ei gweithle ym Mryngwran, ar ran yr Elusen, a chododd gyfanswm o £450.

Dywedodd Phae Jones, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod cefnogwyr, unwaith eto, wedi cymryd rhan i godi arian hanfodol ar gyfer ein hachos. Diolch enfawr i bawb a gynhaliodd ei ddigwyddiad Coffi a Chacen eu hunain er mwyn codi arian ar gyfer ein helusen. Hon yw'r flwyddyn gyntaf i ni gynnal ein digwyddiad ‘Coffi a Chacen’ ac roedd codi £19,000 yn anhygoel. Roedd yn hyfryd clywed bod pobl o bob oedran wedi cymryd rhan yn ein digwyddiad codi arian i ddathlu 23 mlynedd o wasanaethu pobl Cymru.

“Mae'r elusen yn dibynnu ar ddigwyddiadau codi arian fel hyn i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Diolch am godi cymaint o arian!”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae gan yr Elusen lawer o ddigwyddiadau a mentrau dros y flwyddyn, felly am ragor o wybodaeth ewch i www.walesairambulance.com/events.