Mae cadwyn o dafarndai wedi dod ynghyd i helpu i godi mwy na £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Mewn ymgais anhygoel a oedd yn dangos ysbryd ac ymrwymiad cymunedol, gwnaeth deuddeg o dafarndai Marston's ledled de-orllewin Cymru gymryd rhan mewn her codi arian sydd wedi llwyddo i godi'r swm anhygoel o £10,293.86 i'r elusen o fewn deufis yn unig.

Roedd y tafarndai a gymerodd ran yn cynnwys The Coach House, Cockett Inn, Plough & Harrow, Old Inn, Hen Dderwen, Gwesty Vivian Arms a'r Pontardawe Inn yn Abertawe, yn ogystal â thafarndai ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef Llangewydd Arms, Red Dragon a Two Brewers, Gwesty Seagull ym Mhorthcawl a Gwesty Thomas Arms yn sir Gaerfyrddin. 

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ym mhob tafarn, a oedd y cynnwys casgliadau bwced, twrnameintiau dartiau, ocsiynau a rafflau, a oedd yn cael eu cefnogi'n dda gan gydweithwyr a chwsmeriaid.

Cymerodd cymunedau ran i gefnogi eu haelodau lleol, gyda rhai hyd yn oed yn cymryd rhan mewn taith i Fannau Brycheiniog i goncro Pen-y-Fan, copa uchaf De Cymru. 

Gadawodd llond dau fws o gyflogeion a chefnogwyr y tafarndai a oedd yn cymryd rhan, a dangosodd y cefnogwyr a oedd yn codi arian ymrwymiad, undod, a chyfeillgarwch diwyro a bu'r olygfa banoramig o'r copa yn ffordd rymus o gofio am eu cyflawniadau ar y cyd.

Gwnaeth cyfanswm yr arian a godwyd ragori ar darged cychwynnol y gadwyn o dafarndai, sef £10,000.
Syniad codi arian Alan Beddow, Rheolwr Gweithredoedd Ardal Marston’s, oedd hyn, a dywedodd fod llwyddiant yr her elusennol wedi codi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru, yn ogystal â thanlinellu cryfder cysylltiadau cymunedau a chydweithwyr.

Dywedodd: “Mae ein holl dafarndai yn cynnal eu digwyddiadau elusennol unigol eu hunain drwy gydol y flwyddyn, ond roeddwn i am ddewis elusen y gallai pob tafarn yn y rhanbarth godi arian iddi ar y cyd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cefnogi pawb ledled Cymru felly roeddwn i'n teimlo ei bod yn elusen a fyddai'n cael effaith ar ein tafarndai, ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid.

“Roedd pawb yn awyddus i gymryd rhan a gwnaeth pawb chwarae eu rhan, gan gynnwys rhai tafarndai yn gwneud ymdrech arbennig o dda. Roedd rhywfaint o gystadleuaeth gyfeillgar rhwng y tafarndai, a gwnaeth y rhai a gododd y swm mwyaf ymweld â'r safle er mwyn cyflwyno'r siec i Ambiwlans Awyr Cymru. Cododd The Two Brewers a'r Pontardawe Inn fwy na £2,000 yr un. 

“Dyma'r tro cyntaf i ni wneud rhywbeth fel hyn gyda'n gilydd, ac rwy'n edmygu ymroddiad ac ymrwymiad pawb a gymerodd ran. Mae'n helpu i feithrin cydberthnasau da â chydweithwyr yn ogystal â'n cwsmeriaid teyrngar.

“Rwy'n falch iawn bod Marston’s wedi llwyddo i godi mwy na £10,000 i helpu Ambiwlans Awyr Cymru sy'n elusen bwysig i Gymru gyfan yn ein barn ni. Rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu i ariannu galwadau'r dyfodol a fydd yn achub bywydau.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch, Tîm Marston’s, am eich camp anhygoel o godi arian mwy na £10,000. Bydd eich ymrwymiad cadarn a'ch ymdrechion diwyro yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y tir.

“Mae eich haelioni yn cyfrannu at ein nod yn Ambiwlans Awyr Cymru, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am eich cefnogaeth. Gyda'n gilydd, rydym yn achub bywydau.”