Cymerodd athro, y cafodd ei fywyd ei achub gan Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn damwain mewn rali, ran yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian hanfodol ar gyfer yr Elusen sy'n agos at ei galon.

Aeth Mike Hughes, 42 oed, yng nghwmni Vicki ei wraig, 42 oed, i'r brif ddinas ar 1 Hydref i ymgymryd â'u hanner marathon cyntaf gyda'i gilydd.

Wynebodd y cwpwl, sydd â dwy ferch o'r enw Elsie a Meghan, yr her 13.1 milltir i fynegi eu diolch i Ambiwlans Awyr Cymru am helpu i achub bywyd Mike yn ystod Rali Cambria yng Nghorwen yn 2005.  Roedd Mike yn cyd-yrru Subaru Impreza, ond collwyd rheolaeth ohono gan fynd 60 troedfedd i mewn i'r goedwig oddi ar y llwybr, cyn stopio 30 troedfedd i lawr dyffryn serth.

Cafodd Mike  ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd, gan dreulio cyfnod mewn uned gofal dwys gyda chlot gwaed ar ei ymennydd. Dywedwyd wrtho y byddai'n cymryd 18 mis iddo wneud adferiad llawn, ond bedwar mis yn ddiweddarach roedd yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.

Ers ei ddamwain 18 mlynedd yn ôl, mae Mike, sy'n wreiddiol o Dreuddyn yn Yr Wyddgrug ond bellach yn byw y tu allan i Gaer gyda'i deulu, wedi codi miloedd i Ambiwlans Awyr Cymru ac yn parhau i gyflawni heriau codi arian i'r Elusen. 

Yn ogystal â Hanner Marathon Caerdydd, cwblhaodd Mike her Tri Chopa Cymru yn gynharach eleni – er ychydig yn wahanol i'r arfer.  Mewn dim ond 24 awr, dringodd y tad i ddau blentyn Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan, ond hytrach na gyrru i bob un ohonynt, beiciodd y 145 milltir  sydd rhyngddynt.

Dywedodd Mike, sy'n Brifathro Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Gatholig Ellesmere Port: "Nid oedd Vicki na minnau wedi rhedeg ras hanner marathon o'r blaen a gwelsom y cyfle i redeg i'r Elusen, felly aethom amdani! Rydyn ni'n dau'n hoff o'r awyr agored ac yn rhedwyr achlysurol. Pan fyddwn yn cael y cyfle, rydym yn mwynhau rhedeg pellteroedd byr. Gyda dwy ferch ifanc, dyma'r ffordd hawsaf o ymarfer corff gan amlaf.

O safbwynt Vicki, roedd hi'n awyddus i wneud rhywbeth, o fod wedi fy ngweld i yn ymgymryd â heriau gwirion ar hyd y blynyddoedd ac roedd yn gyfle iddi roi rhywbeth yn ôl i'r elusen a achubodd fy mywyd.

"Gwnaethom gwrdd â Jon, peilot Ambiwlans Awyr Cymru, yn ystod ymweliad â'r orsaf awyr yng Nghaernarfon dros yr haf yn dilyn fy her o Gopa-i-Gopa, a chawsom daith tywysedig o amgylch yr hofrennydd. Cafodd argraff barhaol arnom, felly pan ddaeth y cyfle i redeg Hanner Marathon Caerdydd, roedd Vicki wrth ei bodd."

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y  Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Roedd Mike yn dal i ddioddef o ychydig o'r anafiadau o'i her codi arian diwethaf ac roedd Vicki, sy'n ddirprwy brifathrawes, hefyd yn adfer o rwyg yng ngweyllen ei ffêr. Fodd bynnag, cwblhawyd y ras gan y cwpwl, a gwnaethant gasglwyd eu medalau gyda'i gilydd.

Dywedodd Mike: "Ni chawson ni'r cyfle i ddilyn y cynllun ymarfer yr hoffem fod wedi ei wneud. Fodd bynnag, fe weithiodd y cynllun a llwyddom i orffen y ras! Gwnaethom godi dros £1,500 yn cynnwys Cymorth Rhodd, am ein bod wedi codi dros £4,000 ar gyfer yr Her o Gopa i Gopa yn flaenorol.

"Pan roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely ar Noson Tân Gwyllt 2005, heb yn wybod lle roeddwn i na phwy oedd fy rhieni, gwnes addo i fy hun y byddwn yn cefnogi'r Elusen a achubodd fy mywyd am byth. Rwyf wedi bod yn lwcus o allu byw bywyd normal ac mae hynny oherwydd gweithredoedd Ambiwlans Awyr Cymru. Byddaf yn ddyledus iddyn nhw am byth."

“Hoffem ni'n dau ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ar ein taith codi arian ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Mae Ambiwlans Awyr Cymru wir yn gwneud gwahaniaeth ac mae eu cefnogaeth yn wirioneddol ysbrydoledig.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Da iawn i Mike a Vicki am gwblhau eu marathon cyntaf i Ambiwlans Awyr Cymru.

"Mae Mike wedi profi budd ein gwasanaeth yn uniongyrchol, ac mae bob amser yn cynnig cefnogaeth ragorol i'r Elusen drwy ei ymgyrchoedd i godi arian i helpu i ariannu ein galwadau, fel y gallwn wasanaethu er budd eraill ar draws Cymru.

"Ni fyddem yn gallu cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd heb y rhoddion hael rydym yn eu derbyn gan bobl fel Mike, sy'n ein helpu i godi arian hanfodol i helpu i ariannu ein gweithrediadau."

I gefnogi Mike a Vicki rhowch arian iddynt ar eu Tudalen Just Giving, Mike Hughes is fundraising for Wales Air Ambulance Charitable Trust (justgiving.com)