Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2024

Mae athrawes gyflenwi o Fae Colwyn wedi codi dros £1,300 ar gyfer elusen drwy gwblhau her blwyddyn o hyd a fyddai'n codi ofn ar y rhan fwyaf o bobl.

Er nad oedd Veronica Patrick yn arfer gallu 'loncian am fwy na phum munud', cymerodd ran mewn 'Tryathlon', lle roedd ganddi'r nod o gwblhau 590km mewn blwyddyn, drwy redeg 200km, cerdded 350km a nofio 40km!

Daw'r enw 'Tryathlon' o'r ffaith y byddai angen i Veronica weithio'n galed iawn drwy gydol y flwyddyn er mwyn llwyddo yn ei her.

Llwyddodd y fam i dri o blant hŷn i chwalu'r targed hwnnw drwy gwblhau 704.28km yn 2023 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Veronica yn aelod o Choirs for Good yng Nghonwy, a oedd wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2023. Dywedodd: "Cynhaliom nifer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru fel côr, ond roeddwn yn awyddus i gyflawni her yn unigol hefyd. Roedd fy ffrindiau wedi synnu pan gyhoeddais y byddai'r her er budd Ambiwlans Awyr Cymru yn un gorfforol: dydw i ddim yn cael fy adnabod fel rhywun sy'n hoff o chwaraeon!"

Awgrymodd mab Veronica y dylai roi cynnig ar her rhedeg 'Couch to 5k', ac ymunodd â hi ar y rhediad cyntaf. Ond ar ôl cwblhau'r rhaglen 9 wythnos, roedd hi'n benderfynol o fynd ymhellach o lawer, er gwaethaf y ffaith nad yw hi'n mwynhau rhedeg.

"Y rhan anoddaf i mi oedd y loncian, gan nad oeddwn i'n ei fwynhau o gwbl, ond er hynny, doedd dim ots gen i loncian yn y glaw." meddai Veronica.

Gan fyfyrio ar yr hyn a wnaeth ei chymell i barhau â'r her am 12 mis, dywedodd Veronica: "Gwnaeth ymrwymo i'r pellteroedd ar ddechrau'r flwyddyn fy nghymell i'n fawr. Roeddwn i'n gwybod y byddai'n rhaid i mi ei wneud am fy mod wedi dweud hynny. Byddwn i'n cyhoeddi faint roeddwn wedi'i gyflawni bob mis ar fy nhudalen codi arian, ac roedd hefyd yn ffordd defnyddiol iawn o gadw cofnod.

'Cefais roddion gan hen ffrindiau o'r brifysgol a'r ysgol yn ogystal â phobl yn y côr! Mae cyflawni hyn a chodi'r £1300 wedi bod yn deimlad gwych'.

Dywedodd Veronica fod y cymorth gan ei gŵr a'i phlant yn hyfryd, a'u bod wedi synnu ond hefyd yn llawn edmygedd yn ei gweld hi'n cwblhau'r 'Tryathlon'.Cafodd gymorth mawr drwy gydol y flwyddyn gan ei 'chefnogwr' mwyaf, Stella ei ffrind, ac mae hi'n ddiolchgar iawn o hyn.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Yn ogystal â chymryd rhan yng ngweithgareddau codi arian Choirs for Good ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau, gosododd Veronica her unigol blwyddyn o hyd i'w hun. Rydym yn ddiolchgar iawn i Veronica am gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy gydol 2023 ac am godi'r swm anhygoel o £1,365.

"Byddai her mor enfawr â hon yn codi ofn ar y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig rhywun sydd heb wneud dim byd o'r fath yn flaenorol. Fodd bynnag, aeth Veronica amdani gan chwalu ei tharged gwreiddiol. Mae hi'n falch iawn o'i chyflawniadau, a hynny'n haeddiannol. Diolch yn fawr iawn i deulu a ffrindiau Veronica a wnaeth ei chefnogi drwy gydol y flwyddyn.

“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn pob blwyddyn er mwyn cynnal ei gwasanaeth sy'n achub bywydau, a bydd yr arian a godwyd gan Veronica a'r côr yn ein helpu i achub hyd yn oed mwy o fywydau ledled Cymru."

Mae dal cyfle i gefnogi Veronica drwy roi arian i'w hymgyrch drwy ei thudalen Just Giving www.justgiving.com/fundraising/veronica-tryathlon