Penwythnos Cwrs Hir 2021 Cewch hwyl yn cymryd rhan yn yr ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, sef y Penwythnos Cwrs Hir! Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir yn Sir Benfro ar arfordir gorllewinol Cymru, yn denu mwy na 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd i gystadlu ar un diwrnod neu dros gyfnod o dridiau. Mae'n bleser mawr gennym allu cynnig rhai lleoedd elusennol, gan roi cyfle i chi gael lle am £10 os byddwch yn codi arian i ni. Mae pob lle yn cynnig cyfle i gwblhau'r digwyddiadau pellter llawn, ond mae hefyd yn bosibl gwneud y pellterau llai os byddai'n well gennych wneud hynny. Gallwch ddewis cwblhau 1, 2, neu bob un o'r 3 digwyddiad a chodi arian i'n hachos sy'n achub bywydau. Brysiwch, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Dydd Gwener - Her Nofio Cymru Lleoliad syfrdanol, traethau baner las, ac awyrgylch sy'n wirioneddol gyffrous - fyddwch chi ddim eisiau colli'r cyfle. Dysgwch fwy am yr her nofio ryfeddol yma. Gallwch ddewis nofio 1.2 milltir neu'r 2.4 filltir. Lle elusennol £10 - rhaid codi o leiaf £350. Dydd Sadwrn - Her Beicio Cymru Dyma'r her beicio fwyaf cynhwysfawr a gynhelir ar ffyrdd caeedig yng Nghymru, gyda llinell derfyn sydd wedi ennill gwobrau ac awyrgylch gwych. Hon yw'r unig her feicio a gynhelir yn y DU y gellir ei gwylio ar y teledu. Dysgwch fwy yma. Gallwch ddewis mynd 40 milltir, 70 milltir, neu'r pellter cyfan o 112 o filltiroedd. Lle elusennol £10 - rhaid codi o leiaf £300. Dydd Sul - Marathon Cymru Dyma'r unig farathon a gynhelir yn gyfan gwbl ar ffyrdd caeëdig yng Nghymru. Daw'r digwyddiad anhygoel hwn, a gynhelir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i ben gyda'n diweddglo carped coch enwog. Dysgwch fwy yma. Lle elusennol £10 - rhaid codi o leiaf £300. - Pob un o'r tri digwyddiad Hoffech chi herio eich hun ym mhob un o'r tri digwyddiad, sef her nofio dydd Gwener, her beicio dydd Sadwrn a marathon dydd Sul? Noder am mai lle elusennol yw hwn, ni fyddwch yn cael y bedwaredd fedal i ddangos eich bod wedi cwblhau'r penwythnos, ond byddwch yn cael medal ar gyfer pob digwyddiad. Lle elusennol £10 - rhaid codi o leiaf £800. NODER: GWNEIR NEWIDIADAU I'R BROSES GOFRESTRU AC AGWEDDAU ERAILL AR Y DIGWYDDIAD YN UNOL Â CHYNGOR Y LLYWODRAETH I DDIOGELU RHAG RISGIAU COVID-19 NODER: NI CHANIATEIR DEFNYDDIO BEICIAU TREIAL AMSER NA BARIAU TRIATHLON Booking for this event has now closed. Manage Cookie Preferences