Mae'r elusen sy'n achub bywydau yn falch o gyhoeddi y bydd yn agor siop newydd ym Mangor ddydd Llun 14 Awst 2023.

Bydd gan y siop newydd, a leolir yng Nghanolfan Menai, fwy o arwynebedd llawr, a fydd yn cynnig profiad siopa gwell i gwsmeriaid.

Hyd at y mis diwethaf, roedd y siop manwerthu wedi ei lleoli ar Stryd Fawr Bangor ond bu'n rhaid iddi gau er mwyn paratoi ar gyfer adleoli.

Bydd Amanda Hilton yn parhau fel Rheolwr Siop Bangor ac mae rheolwr cynorthwyol wedi cael ei recriwtio fel rhan o'r symud. Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael yn y siop a gellir cael rhagor o fanylion drwy fynd i'n gwefan www.walesairambulance.com/volunteer.

Dywedodd Amanda fod pawb wedi cyffroi ar gyfer agoriad y siop newydd.

Dywedodd: “Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i’n Helusen. Rwy'n edrych ymlaen at symud, ynghyd â'r rheolwr cynorthwyol a'n holl wirfoddolwyr.

“Mae lleoliad y siop newydd yn cynnig mwy o arwynebedd llawr, a fydd yn rhoi lle i eitemau mawr a bach sydd wedi’u rhoi’n hael gan y cyhoedd.

"Ni allwn aros i ddechrau'r bennod newydd yng Nghanolfan Menai. Rydym yn annog pobl i ddod i’r siop ar 14 Awst i ddweud helo a bydd croeso cynnes yn aros amdanynt.”  

Yn 2021, treuliodd yr Elusen amser yn datblygu strategaeth newydd, a ddylanwadwyd gan adborth gan weithwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr. Rhan o’r strategaeth honno yw’r Glasbrint Manwerthu newydd, sy’n ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu incwm ar gyfer ei gwasanaeth achub bywyd a gwella presenoldeb cymunedol yr Elusen.

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wedi bod â phresenoldeb ym Mangor ers sawl blwyddyn ac rydym yn angerddol am ein cysylltiad â’r ddinas.

“Mae cyfle wedi dod i wella'r profiad siopa i'n cefnogwyr a'r amgylchedd gwaith i'n gweithwyr a'n gwirfoddolwyr. Mae Canolfan Menai yn lleoliad poblogaidd ac mae adborth gan adwerthwyr sydd wedi’u lleoli yno yn dangos bod nifer fawr o ymwelwyr yno, a bod masnach yn gadarnhaol.”

Bydd y siop newydd yn agor yn swyddogol am 9:30am a bydd Maer Bangor, y Cynghorydd Elin Walker Jones, yno yn ystod y bore. Gwahoddir cwsmeriaid i ddathlu'r agoriad ac i ddod i weld y siop eu hunain, a chael gafael ar fargen ar yr un pryd.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi o siop Bangor, o ganlyniad i roddion a gwerthu eitemau o'ch dewis chi, yn cael effaith i achub bywydau.

Cafodd Canolfan Menai ei chymryd drosodd yn ddiweddar gan Bearmont Capital ac mae'r cwmni wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ambiwlans Awyr Cymru i sicrhau y bydd y broses adleoli yn cynnig y gorau i'r Elusen a'i siopwyr ffyddlon.

Dywedodd Rob Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Bearmont Capital“Rydym yn falch iawn o groesawu Ambiwlans Awyr Cymru i Ganolfan Menai. Ers caffael y ganolfan siopa, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddenu tenantiaid newydd, wrth archwilio syniadau newydd i wneud y profiad siopa yn fwy deniadol i'r gymuned leol ac ymwelwyr.

“Mae lleoliad y siop elusen ar y safle hwn yn ein llenwi â hyder y bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr, gan ddod â chyfleoedd cyflogaeth a bywyd newydd i uned nad yw erioed wedi’i meddiannu.”