Heddiw, noswyl Dydd Gŵyl Dewi, daeth Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyhoeddwyd y nawdd cyn ei ymweliad yn ddiweddarach y prynhawn yma â phencadlys yr elusen gyda Thywysoges Cymru a dyma nawdd cyntaf y Tywysog yng Nghymru ers derbyn teitl Tywysog Cymru.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn cyfarfod â gweithwyr brys, gwirfoddolwyr a chefnogwyr lle byddant yn dysgu mwy am weithrediadau diweddar yr elusen ledled Cymru. Bydd y Tywysog a'r Dywysoges hefyd yn cael y cyfle i siarad â gweithwyr brys am bwysigrwydd blaenoriaethu eu hiechyd meddwl eu hunain.

Bydd Eu Huchelderau Brenhinol hefyd yn cyfarfod â chyn-gleifion a'u teuluoedd cyn agor Ystafell newydd i Gleifion a Theuluoedd a fydd yn cael ei defnyddio gan Wasanaeth Ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru yn swyddogol.

Mae'r elusen, a gafodd ei sefydlu yn 2001, wedi ymateb i bron 45,000 o alwadau ac mae ar alw 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n cael ei disgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’, yn gweithredu o bedair gorsaf awyr yng Nghaernarfon, Llanelli, y Trallwng a Chaerdydd.

Mae'r elusen yn cynnig gofal critigol uwch ac yn gallu cyflawni trallwysiadau gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol ynyr hofrenyddion yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd.

Drwy ei waith fel peilot ambiwlans awyr gydag Ambiwlans Awyr East Anglia, mae Ei Uchelder Brenhinol wedi gweld ei hun yr effaith y caiff yr ymatebwyr cyntaf hyn ar fywydau cleifion ag anafiadau critigol. Fel Noddwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, bydd y Tywysog yn parhau â'i waith yn hyrwyddo ymdrechion y rheini sy'n gweithio ar y llinell flaen a phwysigrwydd cefnogi eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n fraint aruthrol i'n helusen groesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru fel ein Noddwr Brenhinol. Nid yn unig mae'r cyhoeddiad hwn yn cael ei wneud ddiwrnod cyn Dydd Gŵyl Dewi, ond hefyd ddiwrnod cyn dathlu 22 mlynedd ers sefydlu ein helusen.

“Mae gan y Tywysog brofiad ei hun o weithio o fewn amgylchedd unigryw ambiwlans awyr, sy'n aml yn heriol iawn. Mae ei waith ef, ynghyd â gwaith y Dywysoges, yn amlygu'r angen am gymorth iechyd meddwl i weithwyr brys llinell flaen ac yn rhywbeth y mae ein helusen yn ei werthfawrogi ac yn ei gefnogi'n llwyr.
 Edrychwn ymlaen at ein cydberthynas newydd â'r Tywysog wrth i'n helusen barhau i gefnogi gwasanaeth sy'n achub bywydau i bobl Cymru.”