Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi dechrau ar raglen trawsnewid digidol arloesol a fydd yn ei helpu i godi arian yn fwy effeithiol, meithrin sgiliau digidol cyflogeion a gwirfoddolwyr a lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd. 

Mae’r fenter ddigidol gyntaf i’w chyflwyno, sydd wedi'i dylunio a’i chyflwyno mewn partneriaeth ag Arvato CRM Solutions, yn ymwneud ag awtomeiddio ‘Loteri Achub Bywyd’ fewnol yr Elusen. Mae Arvato wedi cyfuno ei arbenigedd mewn prosesau cyllid â thechnoleg awtomeiddio prosesau robotig (RPA) i greu gweithwyr digidol sy'n dynwared sut y byddai gweithwyr dynol yn rhyngweithio â system loteri'r Elusen.

Dywedodd Mandy Dunell, Rheolwr Gweinyddol Loteri'r Elusen: “Yn hanesyddol, bu'n rhaid i mi ddiweddaru a rheoli dwy system wahanol â llaw. Roedd hon yn broses lafurus dros ben a fyddai'n fy nhynnu oddi wrth y gwaith pwysig o ymgysylltu’n bersonol â chefnogwyr yr Elusen.

“Mae'r dechnoleg bellach yn mewnbynnu ac yn diweddaru data'r chwaraewyr yn systemau'r loteri a debyd uniongyrchol yn awtomatig, ac yna'n cynhyrchu llythyrau cofrestru a ffurflenni debyd uniongyrchol ac yn eu hanfon dros e-bost. Mae hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth am ddebydau uniongyrchol i'r banciau, yn cynhyrchu adroddiadau BACS yn ddyddiol, yn helpu i gynnal cofnodion taliadau'r Elusen, yn rhedeg y loteri a chynhyrchu llythyrau at yr enillwyr.” 

Hyd yma, mae'r system awtomataidd newydd wedi haneru faint o amser mae cyflogeion Ambiwlans Awyr Cymru yn ei dreulio ar adroddiadau BACS dyddiol, ac wedi lleihau'r amser a dreulir yn ychwanegu aelodau newydd i system y loteri hyd at 92%. Drwy anfon llythyrau aelodau newydd dros e-bost yn hytrach na thrwy'r post, mae'r system yn fwy ystyriol o'r amgylchedd a bydd yn arbed miloedd o bunnoedd i'r Elusen bob blwyddyn.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: ”Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein systemau a'n prosesau mor effeithiol â phosibl fel bod pob punt rydym yn ei derbyn gan y gymuned yn cael yr effaith fwyaf posibl ar ein gwaith sy'n achub bywydau. Yn syml, po fwyaf o amser ac arian y gallwn eu harbed yn rhedeg yr Elusen, po fwyaf y gallwn ei neilltuo i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

”Bydd technoleg yn allweddol er mwyn gwireddu hyn a dyna pam mae'n rhan sylweddol o'n strategaeth newydd. Rydym yn arloesol yn y gwasanaeth meddygol a ddarparwn, ac rydym yn awyddus i'r fenter hon ymwreiddio ym mhob rhan o'r Elusen ac ym mhopeth rydym yn ei wneud.

”Yn ogystal â chefnogi ein gwasanaeth sy'n achub bywydau, mae hefyd yn fuddsoddiad yn ein cyflogeion a'n gwirfoddolwyr. Mae Arvato yn mynd i'r afael â thrawsnewid ein prosesau fel partner go iawn, gan weithio'n agos gyda'n tîm i'n helpu i nodi lle gallwn ddatgloi'r buddiannau mwyaf cyn gynted â phosibl, ac i hyfforddi ein tîm fel bod gennym y wybodaeth i gynnal y technolegau hyn ein hunain."

Dywedodd Debra Maxwell, Prif Swyddog Gweithredol Arvato CRM Solutions: ”Mae rheidrwydd ar Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, ynghyd â llawer o sefydliadau trydydd sector eraill, i wneud cymaint â phosibl gyda'i hadnoddau prin. Drwy ei strategaeth trawsnewid digidol uchelgeisiol, mae’n arwain y ffordd o ran arddangos sut y gall y sector nid er elw, a gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd yn gyffredinol, ddefnyddio technoleg i gyflawni hyn.

“Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi’r cyfle i ni fanteisio ar ein profiad o weithio gydag ystod o sefydliadau – o lywodraeth ganolog i frandiau byd-eang a chwmnïau cyfryngau – er mwyn helpu Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i nodi a gwneud y newidiadau a fydd yn cael yr effaith fwyaf posibl. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr hyn y bydd ein partneriaeth yn ei gyflawni nesaf.”

Mae rhaglen trawsnewid digidol yr Elusen wedi ei nodi fel enghraifft o arfer gorau gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb am wasanaethau digidol: “Mae hyn yn newyddion gwych i Wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd defnyddio datrysiadau digidol arloesol yn helpu cyflogeion i weithio’n fwy effeithlon ac yn dod â manteision amgylcheddol, tra bydd arbedion cost sy’n gysylltiedig â digideiddio yn helpu'r Elusen i ddefnyddio cymaint o'i harian â phosibl yn uniongyrchol ar achub bywydau.”

Mae'r Elusen wrthi'n ymchwilio i gyfleoedd pellach i ddefnyddio technolegau newydd – megis awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial – ledled y sefydliad er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynnig mwy o gyfleoedd dysgu a datblygu i'w chyflogeion.

Mae partneriaeth Arvato ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn adeiladu ar nifer o brosiectau trawsnewid digidol diweddar a pharhaus ar gyfer y busnes. 

Mae hyn yn cynnwys ei waith presennol gyda’r Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau i drawsnewid profiad ei chwsmeriaid, cyflwyno ffyrdd newydd o weithio a thechnolegau megis deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio i hyrwyddo hunanwasanaeth, a phartneriaeth â'r cwmni adloniant byd-eang Fremantle, sydd wedi arwain at arbed cannoedd o oriau i'w dîm drwy drawsnewid ei brosesau cyllid allweddol yn ddigidol.