Bydd teulu o Sir Fynwy yn cerdded 100km ym mis Mai i godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau a helpodd i achub bywyd eu mab bach.

Mae Rhiannon Lord, ei gŵr Simon a'u meibion Billy, 5 oed ac Albie yn cymryd rhan yn her mis o hyd Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i fywyd Albie gael ei achub pan oedd ond yn chwe wythnos oed.

Cafodd Albie, sy'n dair oed erbyn hyn, ei daro'n wael â sepsis pan oedd newydd ei eni a galwyd ar Ambiwlans Awyr Cymru gan fod Albie yn gwaethygu mor gyflym.

Dywedodd ei fam ddiolchgar, Rhiannon: “Dim ond chwe wythnos oed oedd Albie pan gafodd ei daro'n wael â sepsis. Ar ôl mynd i weld y meddyg teulu yn y bore, gwaethygodd Albie yn sydyn iawn ac roedd yn sefyllfa ddifrifol dros ben. Aethom yn ôl at y meddyg teulu a ffoniodd am ambiwlans ar ôl gweld Albie. Anfonwyd Ambiwlans Awyr Cymru gan ei fod yn gwaethygu'n gyflym, ei fod yn tachycardig ac yn dechrau dioddef o sioc septic.

“Gwnaeth y tîm anhygoel o Ambiwlans Awyr Cymru drin Albie yng nghefn yr ambiwlans ym maes parcio'r feddygfa a'i sefydlogi cyn i ni gael ein cludo ar y ffyrdd i Ysbyty Neville Hall. Arhosodd criw Ambiwlans Awyr Cymru gyda ni yn yr ambiwlans gan barhau i'w drin yn ystod ein taith i'r ysbyty. Fe wnaethon nhw achub ei fywyd y diwrnod hwnnw a byddwn yn ddiolchgar am byth am bopeth a wnaeth criw'r ambiwlans awyr a'r parafeddygon dros Albie. Rydym yn gwerthfawrogi pob diwrnod yn ei gwmni.

“Mae Albie yn fachgen bach iach erbyn hyn ac mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 3 oed. Mae'n gymeriad a hanner, ac yn llawn bywyd.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae 100km ym mis Mai yn rhan o her Cerdded Cymru flynyddol yr Elusen sy'n gadael i'r cyfranogwyr gerdded pellteroedd amrywiol bob blwyddyn, gan godi arian ar yr un pryd. 

Cerdded Cymru 2022 – mae 100km ym mis Mai yn agored i bobl o bob oedran a'r hyn sy'n dda am yr her rithwir yw ei bod yn rhoi'r cyfle i 'gerddwyr' naill ai fynd allan i archwilio Cymru neu gwneud eu stepiau yn y cartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed!  

Gan ystyried eu penderfyniad i gymryd rhan yn yr her, ychwanegodd Rhiannon: “Roedden ni'n cerdded bob dydd yn ystod y cyfyngiadau symud, a daethom o hyd i leoedd anhygoel mor agos at ein cartref nad oedden ni'n gwybod amdanynt o'r blaen. Rydym wedi dod allan o'r arfer, felly dyma reswm da i ailddechrau arni. Ond yn bwysicach fyth, roedden ni eisiau codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru gan ei bod yn elusen bwysig iawn i'n teulu ni.”

Dyma'r tro cyntaf y bydd Rhiannon, Simon, Billy ac Albie yn codi arian fel teulu ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Rhiannon wedi codi arian ar gyfer yr Elusen yn barod drwy gynnal dau ddiwrnod ‘gwisgo coch’ yn ei hysgol, sef Ysgol Haberdashers yn Nhrefynwy. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi codi £880 ar gyfer yr elusen sy'n agos at ei chalon.

Mae ei theulu eisoes wedi cyrraedd ei darged o £150 hyd yn oed cyn dechrau cerdded.

Ychwanegodd Rhiannon: “Mae gennym ffrindiau anhygoel sy'n gwybod ein bod yn meddwl y byd o'r elusen hon ac maent wedi rhoi yn hael.”

Dywedodd Elin Murphy, y Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau: “Mae clywed straeon teuluoedd fel teulu Albie yn galonogol iawn; maent yn codi arian ar gyfer ein Helusen ar ôl iddynt gael profiad uniongyrchol o'r gwasanaeth achub bywydau mae ein meddygon yn ei ddarparu i bobl Cymru. Mae'n braf clywed bod Albie nawr yn fachgen tair oed iach a hapus a fydd hefyd yn cymryd rhan yn yr her o gerdded 100km yn ystod mis Mai; mae'n ysbrydoliaeth. Diolch yn fawr i'r teulu cyfan, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Pob lwc gyda'r her.”

Ydych chi'n barod am yr her, os felly, ewch i wisgo eich esgidiau a chofrestru trwy ein Grŵp Facebook Cerdded Cymru ymroddedig www.facebook.com/groups/499914708514299 neu gallwch godi arian trwy ein tudalen Just Giving www.justgiving.com/campaign/walkwales2022 

I gael rhagor o wybodaeth am Cerdded Cymru 2022 ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com/cerdded-cymru-2022