Mae teulu o ardal Sit y Fflint wedi codi dros £5,000 hyd yma i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ‘dad a gŵr annwyl iawn’.

Bydd Lizzie Knight, sy'n bennaeth, a'i dau blentyn – Carys, sy'n 19 oed, a Steffan, sy'n 17 oed – yn cymryd rhan yn nhriathlon Swydd Gaer y mis hwn er cof am ei gŵr, Richard, a fu farw y llynedd.

Yn anffodus, cwympodd Richard pan oedd allan yn cerdded ym Mryniau Clwyd ar 11 Gorffennaf 2020. Er gwaethaf ymdrechion meddygon Ambiwlans Awyr Cymru, ni lwyddwyd i'w achub a bu farw ar Foel Famau. 

Dywedodd pennaeth Ysgol Bro Famau: “Rydym yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n darparu gwasanaeth mor anhygoel i'n cymunedau ledled Cymru. Byddwn bob amser yn ddiolchgar am y cymorth a gafodd Richard y diwrnod hwnnw. Drwy godi arian, gobeithio y gallwn sicrhau y bydd pobl eraill yn parhau i gael yr un cymorth brys pan fydd ei angen arnynt.

“Rydym yn gweld eisiau Richard bob dydd. Roedd yn ŵr, yn dad, yn fab, yn frawd ac yn ffrind annwyl iawn. Mae'r paratoadau ar gyfer y triathlon wedi rhoi ffocws a diben i ni.”

Yn ymuno â Lizzie, Carys a Steffan ar gyfer y triathlon – a gynhelir ddydd Sul 25 Gorffennaf – bydd eu ffrindiau Siân Meirion, Claire Hodgson a Vicky Weale a'i phlant Lexi a Morgan.

I ddechrau, gosododd y teulu darged i'w hunain i godi £300 i'r elusen, ac ar hyn o bryd, maent wedi codi swm anhygoel o £5,084.

Roedd Lizzie yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr ymateb i'r apêl codi arian. I ddechrau, gosodais darged o £300, ac rydym wedi cyrraedd dros £5,000. Mae ein teulu a'n ffrindiau wedi bod mor hael a mor barod i'n hannog. Penderfynodd ein hysgol gynnal duathlon, gyda'r arian a godwyd yn mynd i Ambiwlans Awyr Cymru. Cawsom lawer o hwyl, yn rhedeg ac yn seiclo! Mae'r plant a'u teuluoedd wedi codi cymaint o arian. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am eu caredigrwydd.”

Cafodd Lizzie ei hysbrydoli i gymryd rhan yn y triathlon gan ei chwaer-yng-nghyfraith, Bev, a gymerodd ran yn nhriathlon Blenheim ym mis Medi. Cododd Bev arian ar gyfer timau Chwilio ac Achub Gogledd-ddwyrain Cymru a fu hefyd yn ymwneud â'r achos ar y diwrnod yr aeth Richard yn sâl ar Foel Famau.

Wrth feddwl am yr her sydd o'i flaen, dywedodd Lizzie: “Meddyliais 'Pam lai?'. Roedd angen i mi ganolbwyntio ac roedd triathlon Swydd Gaer yn swnio'n ddewis da iawn.  Roeddwn yn ffodus iawn bod rhai o'm ffrindiau a'm dau blentyn eisiau cymryd rhan hefyd. Yn ystod y cyfnod clo, mae wedi rhoi diben a rheswm i mi fynd allan ac ymarfer.

“Rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad yn fawr iawn!  Er fy mod i braidd yn ofnus hefyd. Nid wyf erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn blaen. Nid oes gen i ddiddordeb mewn amseroedd; dim ond i mi gael gorffen! Rwy'n gwybod y byddai Richard mor falch ohonom, ac mai ef fydd uchaf ei gloch yn ein hannog.” 

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd Debra Sima, Cydlynydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r teulu Knight wedi codi dros £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru hyd yma, sy'n anhygoel. Er yr holl dristwch a wynebwyd gan y teulu ers colli gŵr a thad annwyl iawn, maent wedi penderfynu codi arian i'r elusen. Mae'n deyrnged hyfryd er cof am Richard.

“Diolch i bawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad codi arian, pawb sydd wedi rhoi arian neu sydd wedi cynnig cymorth i'r teulu. Diolch yn fawr i ddisgyblion Ysgol Bro Famau sydd hefyd wedi chwarae eu rhan wrth godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Pob lwc i Lizzie, Carys, Steffan a'u ffrindiau yn y triathlon.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Lizzie, Carys, Steffan a'u ffrindiau drwy fynd i'w tudalen Just Giving – 'Lizzie, Family and Friends' Cheshire Triathlon page'.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.