Cyflwynodd staff o'r Llanina Arms siec o £1,265 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiweddar a godwyd yn ystod taith tractors.

Ynghyd â chodi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, gwnaeth y digwyddiad llwyddiannus hefyd godi £1,265 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru er cof am Alan Goronwy ‘Clutch’ Davies.

Dechreuodd y daith tractors elusennol o'r Llanina Arms yn Llanarth, gan fwynhau'r golygfeydd gwledig ac arfordirol hardd lleol.

Hoffai teulu a ffrindiau ‘Clutch’ ddiolch o galon i bawb a fynychodd y digwyddiad ac a roddodd mor hael i ddwy elusen haeddiannol.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae'r elusen angen codi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaeth 24/7 i drigolion Cymru.

Dywedodd Helen Pruett, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y daith tractors er budd dwy elusen bwysig iawn. Trefnodd y Llanina Arms ddigwyddiad codi arian gwych er cof am ‘Clutch’, ac roedd yn llwyddiannus dros ben.

“Rydym yn mynychu argyfyngau a all beryglu bywyd ac achosi anafiadau difrifol yn aml yng Ngheredigion. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol a gwyddom pa mor bwysig yw ein gwasanaeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.