Cymerodd taid o sir y Fflint ran mewn taith feicio 923 o filltiroedd i dair cenhedlaeth i ddathlu ei ben-blwydd yn 79 oed ac i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Beiciodd Jim Jones o Land's End yng Nghernyw i John O'Groats gyda'i fab, Martin Firth, 53 oed, a'i ŵyr 16 oed Alfie, sy'n byw yn Marford, Wrecsam.

Roedd Jim wedi bwriadu ymgymryd â'r her ar gyfer ei ben blwydd yn 80 oed ond penderfynodd ei gwneud flwyddyn yn gynt oherwydd yr arthritis ysgafn yn ei bengliniau.

Mae Jim, a oedd yn yrrwr lori am 54 o flynyddoedd nes iddo ymddeol ddwy flynedd yn ôl, bob amser wedi bod yn heini a dywedodd ei fod wrth ei fodd yn gosod heriau i'w gadw'n brysur.

Mae ganddo rownd glanhau ffenestri ers dros 40 o flynyddoedd a bu'n llwyddiannus mewn athletau yn y gorffennol, gan ennill nifer o fedalau traws gwlad i Glwb Athletau Wrecsam dros y blynyddoedd.

Dim ond pan oedd yn ei 60au y penderfynodd Jim, sy'n byw yn Northop Hall, ger yr Wyddgrug, ddechrau beicio ac mae wedi cyflawni'r her ddwywaith o'r blaen – y tro cyntaf 12 mlynedd yn ôl.

Dywedodd: “Dechreuais feicio pan oeddwn i'n tua 64 oed ar ôl gorfod rhoi'r gorau i athletau am fod cyhyrau croth fy nghoesau'n gwanhau. Dyw hyn ddim yn effeithio arna i pan fyddaf yn beicio. Rwyf bob amser wedi cymryd rhan mewn athletau ac rwyf wrth fy modd yn chadw'n brysur a chael rhywbeth i fy herio a chanolbwyntio arno.

“Roedd y daith yn haws na'r disgwyl. Treuliais lawer o amser yn hyfforddi ymlaen llaw. Mae'n rhaid fy mod wedi beicio 1,500 o filltiroedd yn y pum mis cyn yr her, felly roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gallu cyflawni'r 100 milltir pob dydd am 9 diwrnod.

“Gwnaethom gychwyn yn Land's End a theithio i John O'Groats. Yn wreiddiol, roeddwn wedi penderfynu ei wneud ar fy mhen fy hun ond yna awgrymodd Martin y gallem wneud taith tair cenhedlaeth. Roedd yn braf cael cwmni fy mab a fy ŵyr, Alfie, ac roeddent yn help mawr. 

“Pan fydd gennych gwmni, rydych yn siarad ac yn beicio ac yn mynd drwy'r rhannau anodd, ond mae'n anoddach pan fyddwch ar eich pen eich hun. Roedd yn wych cael bod allan gyda fy ŵyr, Alfie, a gwnaeth yn anhygoel o dda ar ei daith feic gyntaf. Roedd wrth ei fodd.

Mae Martin eisoes yn ceisio fy annog i wneud taith feicio arall flwyddyn nesaf yn Iwerddon – ond cawn ni weld.”

Dywedodd Jim, sy'n troi'n 79 yr wythnos nesaf, (dydd Llun, 5 Rhagfyr) ei fod am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl canfod nad yw'r elusen sy'n achub bywydau yn cael unrhyw arian gan y llywodraeth a'i bod yn gorfod codi £8miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd: “Rwy'n gwylio llawer o raglenni teledu am yr ambiwlans awyr ledled y wlad a chefais fy synnu nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan y llywodraeth. Dywedais wrth fy ngwraig, Jan, nad yw'n iawn nad ydyn nhw'n cael unrhyw gymorth felly penderfynais wneud rhywbeth a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.  Mae'n wasanaeth mor hanfodol.

“Gwnaethom godi dros £4,000 drwy roddion gan ffrindiau, teulu, hen gydweithwyr, cwsmeriaid, ac aeth fy ngwraig Jan o gwmpas y pentref yn casglu arian. Roedd hi'n ein cefnogi ar hyd y daith a chododd lawer o arian ar ein rhan. Hoffwn hefyd ddiolch i Chris am ein cludo ar hyd y ffordd hefyd.”

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Da iawn i Jim, Martin ac Alfie am ymgymryd â'r her feicio o Land's End i John O'Groats. Mae'n gyflawniad enfawr, ac rwy'n siwr y cafodd llawer o atgofion eu creu rhwng y tair cenhedlaeth ar y daith, yn ogystal â chodi arian hanfodol i'n helusen.

“Da iawn am godi £4,032 i Ambiwlans Awyr Cymru. Dymunwn ben-blwydd hapus i Jim yn 79 oed ar 5 Rhagfyr.”