Mae tad i chwech o blant wedi codi £2,700 drwy redeg 1000km mewn 100 diwrnod yn ystod y cyfyngiadau symud ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Ar ôl cymryd seibiant o redeg am 18 mis, gwisgodd Darren Roberts o Rosgadfan ei esgidiau rhedeg unwaith eto i godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau.

Ychydig ddyddiau ar ôl dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol, bum diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 40 oed - ac yntau ar ffyrlo - gosododd Darren her enfawr iddo'i hun i redeg 1000kn mewn 100 diwrnod.

Gwnaeth Darren, sy'n gweithio fel goruchwylydd gofal cwsmeriaid i Beech Developments, gyflawni'r her ym mis Gorffennaf ac mae'n falch iawn ei fod wedi llwyddo i godi mwy na'i darged o £1,000.  Dywedodd: “Roedd yn golygu tua 10km y dydd ar gyfartaledd, a mwy weithiau pe bawn i wedi colli diwrnod – felly roedd yn her go iawn!

“Mae gan fy merch obsesiwn â hofrenyddion, ac roeddwn i'n gwybod bod Ambiwlans Awyr Cymru bob amser wedi helpu pobl ledled y wlad mewn ardaloedd anghysbell ond y byddent wedi bod dan ragor o bwysau o ganlyniad i COVID-19. Felly, roedd yn gwneud synnwyr i'w henwebu fel elusen y byddwn i'n rhedeg a chodi arian iddi.

Aeth Darren i'r bryniau ger ei gartref a llwyddodd i ddringo 85,000 troedfedd yn ogystal â chyflawni'r gamp o ran pellter.

Mae gwaith caled ac ymrwymiad Darren i’r ymdrech codi arian wedi cael ei gydnabod gan ei gydweithwyr. Fe'i disgrifiwyd ganddynt fel ‘gwir ysbrydoliaeth’. Mae'r cwmni wedi penderfynu cyfrannu swm sy'n cyfateb i'r £1,135 a gododd, fel rhan o'i ddathliadau pen-blwydd yn 25 oed i helpu elusennau lleol, gan arwain at gyfanswm terfynol o £2,700.

Roedd Darren, sydd â chwe merch, yn lwcus i gael tywydd heulog yn ystod y 100 diwrnod a dim ond ychydig o ddyddiau glawiog. Fodd bynnag, wynebodd storm neu ddwy, a ddisgrifiodd fel rhai ‘gwyllt’.

Wrth feddwl am y cymorth a gafodd, dywedodd: “Roedd y cymorth a gefais gan ffrindiau a theulu yn wych, ac ymunodd un neu ddau ohonynt â mi i redeg! Fy ngwraig, Nia, oedd fy nghymorth mwyaf, yn cadw trefn ar bethau gyda’r plant, ac yn fy annog i fynd pan oeddwn i weithiau’n teimlo’n flinedig.”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Darren ar gael y nerth a'r grym ewyllys i ddal ati am 100 diwrnod, yn enwedig ar ôl seibiant o redeg am 18 mis! Mae'n galonogol clywed bod Darren wedi dewis yr her hon ar ôl clywed am y pwysau ychwanegol y mae elusennau yn eu hwynebu yn ystod y pandemig presennol. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol o ran ymdrechion codi arian yn ystod y 6 mis diwethaf. Bydd y gefnogaeth gan Darren a Beech Developments yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Darren, ac yn arbennig i Darren ei hun, am ei ymdrechion.”

Gallwch ddangos eich gwerthfawrogiad i Darren drwy ei noddi ar ei dudalen Just Giving, Darren's 1000km in 100 days.