Bu taith tractors wedi'u goleuo ym Mhowys yn llwyddiant ysgubol ar ôl iddi godi £5,000 i elusen.

Daeth cannoedd o bobl i'r strydoedd i gefnogi Taith Tractors a Cherbydau 4x4 wedi'u Goleuo Clwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen, lle y gwnaeth fflyd o dractors wedi'u haddurno â goleuadau Nadoligaidd llachar deithio drwy Ferthyr Cynog, Capel Uchaf, Pontfaen, Cradoc, Pwllgloyw, Groesffordd ac Aberhonddu.

Nod y digwyddiad, sydd yn ei ail flwyddyn, oedd codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad DPJ, yr elusen iechyd meddwl ffermwyr.

Gwahoddwyd seren rygbi Cymru, Dan Lydiate, i feirniadu a dewis y tractor a oedd wedi'i addurno orau, o blith tractorau a oedd wedi'u haddurno ag arddangosfeydd golau cywrain, yn amrywio o batrymau geometrig lliwgar i olygfeydd anhygoel yn dangos traddodiadau'r ŵyl. 

Wedi cryn ystyriaeth, dyfarnodd Dan y brif wobr i Liam Powell, a chyflwynwyd y cwpan a thalebau a roddwyd gan Wynnstay iddo.

Aeth y wobr ar gyfer y cerbyd 4 x 4 gorau i Llywela Lewis ac enillodd Gerwyn Rees ac Ann Davies wobr y Gyrrwr a'r Teithiwr â'r Gwisgoedd Gorau, gan ennill eitemau a roddwyd gan Sefydliad DPJ.

Dywedodd Iain Mcintosh, cynghorydd sir Powys yr ardal, fod y daith tractors wedi bod yn llwyddiant ysgubol.  

Dywedodd: “ Mae bob amser yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ar achlysur fel hyn, ac fel y llynedd, llwyddodd i ddenu pobl allan i wylio yr holl fordd o Ferthyr Cynog a Chapel Uchaf, drwy Bontfaen, Cradoc, Pwllgloyw a Groesffordd, i mewn i Aberhonddu.

Mae pawb yng CFfI Pontfaen yn haeddu diolch mawr am drefnu'r digwyddiad unwaith eto, ac mae hynny'n berthnasol hefyd i'r holl fusnesau lleol sydd wedi helpu i godi arian drwy noddi'r digwyddiad hefyd."

Daeth Siôn Corn hefyd i godi gwên ar wynebau'r plant, gan roi anrhegion i'r rhai a oedd wedi dod at ei gilydd ym Maes Parcio Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Cyngor Tref Aberhonddu a roddodd yr anrhegion i Siôn Corn eu dosbarthu.

Gorffennodd y noson drwy gynnal raffl.  Hoffai CFfI Pontfaen ddiolch i McCartneys LLP am ganiatáu iddynt ddechrau'r daith ym Marchnad Da Byw Aberhonddu, i Jo Evans, Hyrwyddwr Grantiau Cymunedol Morrisons, am gyfrannu bwyd i'r gyrwyr a'r teithwyr ac i bob aelod a roddodd wobrau, yn ogystal â'r busnesau canlynol a roddodd wobrau hefyd; The Wheelwright Arms, RWAS Ltd, New Holland Agriculture, Celtic Manor, Carrs Billington, Hopkins Machinery, Hay & Brecon Farmers a Hills of Brecon.

Ysgrifennodd un o drigolion Aberhonddu: "Roedd y daith tractors yn hollol wych. Pwy a ŵyr faint o oriau a gymerodd i drefnu'r digwyddiad. Rwyf wedi byw yn Aberhonddu drwy gydol fy mywyd (72 mlynedd!) a dyma un o'r digwyddiadau gorau a welais erioed."

Hoffai'r clwb ddiolch i'r noddwyr canlynol am eu cymorth hael ar gyfer y digwyddiad; Bbi Group, Gwasanaethau Yswiriant Caleb Roberts, Caroline’s Real Bread Company, Clee Tompkinson & Francis, Clwb Golff Cradoc, Hills Brecon, Ivor Duggan a'i Feibion, AV Griffiths a'i Fab, JHS Training, LBS Builders Merchants, Lyndon R Jones Heating Services Ltd, Morgan’s Family Butchers, Penmaenau Bars, Phil Davies Haulage Ltd, Pixelhaze, Ted Hopkins, The Strand Café, Llanfair-ym-Muallt, Wigwam Aberhonddu, Cyfreithwyr Woodland Davies, Youngs of Brecon.

Hoffai hefyd estyn ei werthfawrogiad i Maureen a staff Caffi Marchnad Aberhonddu ac i Anne a staff Strand Café, Llanfair-ym-Muallt, am werthu dros £500 o docynnau raffl.

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch enfawr i CFfI Pontfaen am ddewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am yr ail flwyddyn. Roedd y daith tractors, unwaith eto  yn llwyddiant ysgubol ac mae hynny oherwydd gwaith caled ac ymroddiad pawb a gymerodd ran. Helpodd eu hymdrechion i greu awyrgylch Nadoligaidd a chofiadwy i bawb a fynychodd.  

“Bydd yr arian a godwyd yn ein helpu i barhau i ddarparu ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru. Diolch o waelod calon.”