Bydd grŵp o fenywod o Gyfeillion ac Aelodau Sefydliad y Merched Pen-bre a Phorth Tywyn yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau i godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Belinda Freeman, Dawn O'Keeffe, Sue Rowland, Janet Surman, Barbara Taylor a Carol Tetley yw'r chwech fydd yn cymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Fy20. Maent wedi gosod targed i'w hunain i godi £200 ac maent wedi codi £170 o'r targed yn barod yn eu hymdrech gyntaf i godi arian i'r elusen.

Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu achlysur ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae'r Elusen wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Mae'r digwyddiad yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan drwy osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y gallant eu cwblhau yn ystod mis Mawrth.

Bydd y menywod yn mabwysiadu dull cymysg o gyflwyno'r her, ac maent yn bwriadu cyflawni o leiaf tri gweithgaredd gwahanol am 20 munud bob dydd. Bydd hyn yn cynnwys dawnsio,
canu, ioga, darllen, bod allan yn yr awyr agored, gwneud rhywbeth creadigol neu roi cynnig ar sgil newydd.

Gan fyfyrio ar resymau'r grŵp dros gymryd rhan yn yr her, dywedodd Dawn O'Keefe, sydd hefyd yn un o wirfoddolwyr yr Elusen: “Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i bawb sy'n gyfarwydd â chadw'n brysur a bod yn gynhyrchiol. Bydd ein heriau personol yn canolbwyntio ar ein llesiant, gan gadw ein meddyliau a'n cyrff yn actif.

“Rydym yn grŵp dynamig a chymdeithasol sy'n mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, canu, dawnsio, mynd i'r theatr a threulio amser yn ein hardal leol brydferth. Mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i bob un ohonom sy'n gyfarwydd â chadw'n brysur, felly mae'r her hon yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar lesiant ein meddyliau a'n cyrff a chefnogi achos gwych ar yr un pryd.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ffaith nad ydym wedi gallu helpu i godi arian yn y gymuned, gan wybod bod costau rhedeg yr elusen yr un peth ag arfer, wedi bod yn rhwystredig. Rwyf o'r farn bod yr ambiwlans awyr yn wasanaeth hanfodol sydd yr un mor bwysig â'r heddlu a'r gwasanaeth tân. Mae gwybod bod hofrennydd ar gael 24/7 a 365 diwrnod y flwyddyn yn ased gwych i bobl Cymru.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Mae'n hyfryd bod y menywod wedi penderfynu cymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Fy20 yr Elusen. Maent wedi dewis amrywiaeth o dasgau neu weithgareddau gwahanol i'w cwblhau yn ystod mis Mawrth, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n eu cadw yn brysur bob dydd.

“Mae Cyfeillion ac Aelodau Sefydliad y Merched Pen-bre a Phorth Tywyn eisoes wedi codi £170. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y digwyddiad codi arian, a hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r menywod eu hunain. Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich her.”

Gallwch gefnogi'r menywod drwy roi arian drwy eu tudalen Just Giving, sef Fy20 / My20 Challenge Pembrey & Burry Port WI.

I gael rhagor o wybodaeth am her #Fy20, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.