Mae menyw benderfynol o Sir Benfro wedi gosod record newydd drwy redeg y 186 milltir sy'n ffurfio Llwybr Arfordir Sir Benfro yn yr amser anhygoel o 51 awr a 35 munud, gan godi bron i £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.   

Sanna Duthie, 32 oed, o Aberdaugleddau, yw'r ail berson yn unig i redeg hyd cyfan Llwybr Arfordir Sir Benfro, ar ôl i Richard Simpson o Hwlffordd gwblhau’r her yn 2018 mewn 64 awr a 32 munud.  

Roedd y rhedwraig uwchfarathonau wedi rhoi cynnig ar dorri'r record ym mis Awst y llynedd, ond bu'n rhaid iddi roi'r gorau iddi ar ôl cwblhau mwy na 63 milltir er ei diogelwch ei hun, o ganlyniad i'r tywydd ofnadwy.          

Gwnaeth Sanna hyfforddi drwy redeg mwy na 300 milltir y mis ers mis Mawrth 2020 er mwyn paratoi ar gyfer yr her enfawr oedd o'i blaen.

A diolch i'w dyfalbarhad, llwyddodd i godi'r swm anhygoel o £3,981 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Wrth sôn am yr her, dywedodd: “Waw, diolch i bawb. Eich negeseuon cefnogol a'ch rhoddion a'm helpodd i gwblhau'r her o redeg hyd cyfan Llwybr Arfordir Sir Benfro mewn 51 awr a 35 munud.

“Mae'r gefnogaeth a gefais wedi bod yn wych.  Mae fy nhad, Stephen a'm partner, Andrew wedi colli llawer o gwsg hefyd. Diolch o galon i'm ffrindiau annwyl a fu'n rhedeg gyda mi, ac i bawb ar hyd y ffordd. Mae wedi bod yn brofiad gwych, ond y bobl a'r rhoddion oedd y peth a'm helpodd i drwyddi."

Cychwynnodd Sanna ar yr her am 8am ddydd Iau 6 Mai yn Llandudoch, gan orffen yn Amroth ddydd Sadwrn, 8 Mai.    

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth, dri mis ar ôl iddi lwyddo i wireddu ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.   

       

Dywedodd Katie Macro, Cydgysylltydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y De-orllewin:     “Llongyfarchiadau mawr i Sanna am ei chyflawniad anhygoel. Llwyddodd i dorri'r record bresennol, gyda 13 awr yn weddill a heb gysgu!

“Mae ei dyfalbarhad a'i hymrwymiad yn ysbrydoledig iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Diolch i bawb a gefnogodd Sanna, yn arbennig ei thad a'i phartner, sydd wedi bod wrth ei hochr drwy gydol y broses o hyfforddi yn ogystal â'r her ei hun. Mae'n amser iddynt roi eu traed i fyny a chael noson dda o gwsg!”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Sanna o hyd drwy fynd i’w thudalen Just Givng  Sanna’s 186 miles – Pembrokeshire Coast Path. 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 i roi £5.    

Photo credit: Tim Plumb