Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Ein nod yw gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys cleifion ieuengaf Cymru. Mae Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn is-adran arbenigol o’n helusen, sy’n darparu gofal a chludiant arbenigol angenrheidiol i gleifion pediatreg a newydd-anedig. Mae ein pedwerydd hofrennydd yn golygu mai ni yw'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf ym Mhrydain, a ddefnyddir i ddarparu ystod eang o driniaethau ar gyfer cleifion pediatreg. Rydym yn cynorthwyo tua 400 o blant a babanod bob blwyddyn, naill ai fel rhan o gyrchoedd argyfwng 999 neu drwy ddefnyddio ein hofrennydd penodol i’w cludo. Hafan Beth Ydym yn gwneud Amdanom Cyrchoedd Cit a'r fwrdd CWRDD Â'R CRIW Sut I helpu Cymrd rhan Cyfrannwch Adnoddau Ar Gyfer Plant Loteri Loteri Ambiwlans Awyr Cymru i Blant Canlyniadau Ymunwch Nawr Richard Axon - Helimed 67 1. Pa mor hir rydych chi wedi gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru? Ymunais efo AAC yn Tachwedd 2016. 2. Ydych chi o hyd wedi eisiau bod yn beilot? Ydw, rwyf o hyd wedi eisiau bod yn beilot, cymerodd llawer o amser a gwaith caled i llwydo. 3. Beth mae'n meddwl i chi i hedfan ar gyfer AAC? Mae hi'n gyffrous iawn i mi i hedfan ar gyfer AAC. Cefais fy magu yng Nghymoedd Castell Nedd, felly i hedfan cleifion ar draws y gefnwlad le tyfais lan yn teimlo'n arbennig iawn. 4. Os nad oeddech yn beilot, be fyddech chi? Os ni allaf hedfan, dwi'n credu byddaf yn mynd nol i hyfforddi pobl ar rafftio dwr gwyn rhywle heulog. 5. Pryd a ble wnaethoch eich hyfforddiant? Sifil neu'r Fyddin? Mae gennyf cefndir sifil. Roedd fy ngwersi cyntaf yn Seland Newydd wedyn Abertawe, Miami, High Wycombe a Gaerloyw. Dorrais fy hyfforddiant lan i dderbyn brofiad eang a dysgu mewn sawl faes.