11/06/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn diolch i gyfranogwyr a gymerodd ran yn Ras Rithwir Fy Milltiroedd Hedfan, gan godi dros £18,000 i'r elusen sy'n achub bywydau.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Elusen greu a chynnal ei ras codi arian rithwir ei hun, ac roedd y lansiad ym mis Mawrth yn llwyddiant mawr. Cymerodd dros 200 o bobl o bob oedran ran yn her ‘Milltiroedd Hedfan’, a oedd â'r nod o gydnabod y pellteroedd mawr y mae ‘Meddygon Awyr’ y gwasanaeth yn eu teithio bob mis. Gallai'r cyfranogwyr ddewis pellter o 25, 60 neu 100 milltir i'w gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Dechreuodd yr her cyn i gyfyngiadau symud y Coronafeirws gael eu cyflwyno, ac anogwyd cefnogwyr i gadw'n heini, boed hynny drwy gerdded y ci, mynd i'r gampfa neu hyfforddi ar gyfer digwyddiadau eraill – fel marathon. Fodd bynnag, ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno, cwblhaodd y cyfranogwyr yr her yn ystod eu hawr o ymarfer corff y dydd, yn unol â'r rheoliadau.

Gwnaeth Stella Hazell, sy'n 82 oed ac yn fam-gu, gofrestru ar gyfer yr her. Anelodd at gwblhau 25 milltir ond, yn rhyfeddol, mae wedi cwblhau dros 50 milltir.

Wrth sôn am ei chyflawniad, dywedodd Mrs Hazell, o Lynebwy: “Roedd llawer o’r milltiroedd ychwanegol o ganlyniad i’r ffaith bod ein canolfan hamdden, lle daeth y rhan fwyaf o'm nawdd, ar gau yn ystod rhan olaf y mis oherwydd y pandemig. Felly, treuliais beth o'r amser rydw i fel arfer yn ei dreulio yno yn mynd am droeon.”

Roedd ei hymroddiad a'i gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, ac mae pobl wedi dangos eu cefnogaeth i Mrs Hazell drwy ei helpu i godi £154.50.

Gwnaeth Mrs Hazell, sy'n gefnogwr brwd i'r Elusen, hefyd roi hanner ei henillion o £1000 o Loteri Achub Bywyd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae wedi codi cyfanswm o £654.50.

Dywedodd Steffan Anderson-Thomas, Arweinydd Digwyddiadau'r Elusen: “Mae lansiad y Ras Rithwir wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr her. Mae ein helusen yn dibynnu’n llwyr ar roddion gan bobl Cymru i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan. Mae pobl fel Mrs Hazel, sy'n 82 oed, wedi dangos bod unrhyw beth yn bosibl os rhowch eich meddwl ar waith, ac mae hynny'n galonogol iawn.

“Mae'n gyfnod anodd i bawb, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, a hoffwn ddiolch o galon i bawb am ymgymryd â'r her.”

Ar ôl cwblhau'r her, cafodd yr holl gyfranogwyr dystysgrif, medal a chrys-T.