Llwyddodd digwyddiad rasio daeargwn a chŵn yn NhŷCreseli i godi £218 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mynychwyd y digwyddiad poblogaidd yn y plasty hanesyddol yng nghefn gwlad Sir Benfro gan aelodau o'r gymuned leol a'u hanifeiliaid anwes.

Roedd Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru, Katie Macro, wrth ei bodd i dderbyn gwahoddiad i DŷCreseli, lle cyflwynwyd siec iddi am £218 gan Emma Sutton, Michael Bolton, Ros Beck a Hugh Harrison-Allan.

Dywedodd Katie Macro: “Diolch yn fawr iawn i DŷCreseli am gynnal y digwyddiad rasio daeargwn a chŵn er budd ein helusen sy’n achub bywydau. Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd hon.

“Rydym yn mynychu argyfyngau a all beryglu bywyd ac achosi anafiadau difrifol yn aml yn Sir Benfro. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol, ac rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ein gwasanaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.