11/05/2020

Mae'r brawd a chwaer caredig, Amy a Thomas Wilson wedi codi £118 drwy gynnal raffl ar-lein ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru – ar ôl darllen am apêl frys yr Elusen.

Mae Amy, sy'n 14 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Emlyn, a Thomas sy'n 9 oed ac yn mynd i Ysgol y Ddwylan, yn deall pwysigrwydd y gwasanaeth achub bywydau i bobl Cymru. Bu'n rhaid i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru fynd at eu tad-cu; Peter Lewis, yn 2016.

Dywedodd eu mam falch, Tracey, o Gastellnewydd Emlyn: "Roeddent am wneud rhywbeth i helpu ar ôl darllen yn y papur newydd fod rhoddion wedi gostwng. Rwy'n falch iawn ohonynt am fod yn awyddus i helpu pobl eraill yn ystod yr amseroedd hyn."

Roedd y raffl ar-lein, a oedd yn £2 y tocyn, yn cynnwys dwy wobr gyntaf o dair potel o win ac ŵy Pasg.

Prynodd tua 40 o bobl docyn raffl, a dewiswyd y rhifau llwyddiannus ar hap gan Alexa, technoleg deallusrwydd artiffisial Amazon.

Wrth siarad am eu rheswm personol dros godi arian, dywedodd Tracey: "Cafodd eu tad-cu drawiad ar y galon, a gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth, pe na fyddai'r ambiwlans awyr wedi ei gludo'n gyflym i Abertawe. Roeddem yn lwcus iawn i gael y gwasanaeth hwn. Dydych chi ddim wir yn meddwl amdano tan ei fod yn digwydd i chi. Nawr, pryd bynnag rydym yn gweld bwced neu dun casglu, rydym yn rhoi bob tro."

O ganlyniad i lwyddiant y raffl, mae Amy a Thomas bellach yn ceisio codi £50 i'r Elusen drwy gynnal raffl ar-lein arall, a'r tro hwn bydd cyfle i ennill bocs o siocledi. Mae'r tocynnau yn costio £1 yr un.

Dywedodd eu rhieni, Tracey ac Alex, y byddant yn helpu'r ddau mewn unrhyw ffordd bosibl pe byddent yn hoffi gwneud mwy o waith codi arian.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De a Chanolbarth Cymru: "Ar ran Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch i Amy a Thomas am eu hymdrechion gwych i godi arian yn ystod yr adeg anodd hwn.

"Fel Elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni anhygoel y cyhoedd i ariannu ein pedwar hofrennydd ledled Cymru, a bydd cyfraniad creadigol ac ystyrlon Amy a Thomas yn ein helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a darparu gofal meddygol critigol a brys arloesol ledled Cymru."

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi apêl frys Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref – fel Amy and Thomas. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.