Annwyl Ffrindiau

Mae'n siŵr eich bod wedi darllen a gweld llawer am y dadansoddiad o wasanaeth yr ambiwlans awyr yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn fras, mae'r dadansoddiad yn nodi:

  • Mae pobl mewn perygl o golli eu bywyd neu goes/au neu fraich/freichiau gan nad yw ein criw/awyren/cerbydau ymateb cyflym yn y lle cywir ac mae angen i'n horiau gweithredu adlewyrchu amseroedd pan fydd y galw ar ei uchaf yn well.
  • Gall y model gweithredu mwyaf effeithiol a gafodd ei nodi drwy'r gwaith modelu annibynnol ein galluogi i wella ein gwasanaeth.
  • Gallem fynd at 583 o ddigwyddiadau brys ychwanegol lle y gall rhywun fod mewn sefyllfa sy'n peryglu bywyd neu sy'n achosi anafiadau difrifol.
  • Byddai pob sir yng Nghymru yn elwa, gyda'r gwasanaeth yn mynychu mwy o achosion peryglu bywyd neu anafiadau difrifol.

 

Canlyniadau'r dadansoddiad sydd bellach yn cael eu cyflwyno yw'r rhai manylaf y mae Ymddiriedolwyr yr Elusen wedi'u gweld erioed. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw sefydliad ambiwlans awyr arall yn y byd sydd wedi cynnal dadansoddiad mor fanwl o'i wasanaeth. Ar ôl i'r Ymddiriedolwyr graffu ar y dadansoddiad, mae'r canlyniadau yn glir ac yn gymhellol, ac yn cynnig cyfle i wella ein gwasanaeth i bob rhanbarth yng Nghymru. Yn unol â chenhadaeth yr Elusen i ddarparu gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru, a hynny pryd bynnag a ble bynnag y mae ei angen arnynt, mae dyletswydd ar yr Ymddiriedolwyr i ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion o ddifrif.

 

Dechrau'r Broses Gyfathrebu Annibynnol Swyddogol

Cynhaliwyd y dadansoddiad gan bartneriaid meddygol yr Elusen, y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), sy'n cynnwys gwaith modelu annibynnol. Felly, mae'r broses ymgysylltu yn cydymffurfio â phroses lywodraethu'r GIG a bydd yn cael ei harwain yn annibynnol gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans.

 

Rydych chithau, fel ninnau, wedi bod yn awyddus i'r broses swyddogol hon ddechrau ac mae'n bleser gennym ddweud ei bod bellach ar waith. Gweler y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cynnig Datblygu Gwasanaeth - Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (gig.cymru)

 

Mae hyn yn ddatblygiad ar gyfer Cymru gyfan, felly ble bynnag yr ydych yn y wlad, cymerwch amser i ddysgu mwy, i holi cwestiynau ac i rannu eich meddyliau gan ddefnyddio'r broses swyddogol.

 

Yr Elusen – Y Misoedd Diwethaf a Symud Ymlaen

 

Pan gafodd darn o wybodaeth gyfyngedig a phenodol iawn, sy'n ymwneud â'r dadansoddiad, ei ddatgelu'n answyddogol i'r cyfryngau gwnaethom yn glir yr adeg honno ei bod wedi cael ei rhyddhau ymhell cyn y broses gyfathrebu â'r cyhoedd a gafodd ei chynllunio ac sydd ar fin dechrau.

 

Rydym yn ymfalchïo yn ein cydberthynas â'n cefnogwyr. Yn ystod y cyfnod rhwng datgelu'r wybodaeth yn answyddogol a dechrau'r broses gyfathrebu swyddogol rydym wedi gwneud ein gorau i fod yn agored ac yn atebol. Er bod ein hadnoddau fel elusen yn gyfyngedig rydym wedi gweithio'n galed i ymateb i'r sylwadau a'r cwestiynau a gawsom, gan gofio ar ba gam o'r broses roeddem ni arno.

 

At sylw ein cefnogwyr ym Mhowys a Gogledd Orllewin Cymru - oherwydd y ffordd y cafodd y wybodaeth ei rhyddhau a'r penawdau a ddeilliodd o'r wybodaeth honno, mae'r cwestiynau yr ydym wedi eu gweld yn hollol ddealladwy. Gwyddem eich bod yr un mor frwdfrydig dros ein helusen ag yr ydym ni a bod y deufis diwethaf wedi effeithio arnoch gymaint â ninnau.

 

Yn ystod cyfnodau lle'r oedd rhai pobl yn ein ffonio i gwestiynu ein huniondeb, rhywbeth sydd wedi brifo pawb o fewn ein Helusen yn fawr, gwnaethom eu trin ag urddas a byddwn yn parhau i wneud hynny.

 

Mae gennym werthoedd cryf. Mae pob un ohonom yn frwdfrydig dros ein Helusen. Gall pob un ohonom edrych yn y drych bob dydd gan wybod bod popeth rydym yn ei wneud yn cael ei wreiddio'n llwyr ar ddarparu'r gofal gorau posibl i'r rhai hynny sydd angen ein help.

 

Bu hefyd yn glir bod camddealltwriaeth yn bodoli am ein gwasanaeth a'r ffordd rydym wrthi'n gweithredu. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny drwy ein gwefan - WAA/EMRTS Dadansoddi Gwasanaeth - Cwestiynau Cyffredin | Ymddiriedolaeth Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (walesairambulance.com)

 

Gyda'r broses annibynnol swyddogol ar fin dechrau, bydd ein helusen nawr yn ailgyfeirio ei ffocws llawn i'r gwaith hanfodol rydym yn ei gyflawni i gynnal ac ehangu ein sefydliad sy'n galluogi bodolaeth gwasanaeth ambiwlans awyr sy'n hynod o bwysig i'r wlad.

 

Unwaith y bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi ei adroddiad yn dilyn y broses gyfathrebu bydd Ymddiriedolwyr yr Elusen yn adolygu ei gynnwys ac yn ystyried beth yw'r camau nesaf.

 

Mae gan Gymru un o'r gwasanaethau meddygol ambiwlans awyr gorau yn Ewrop. Rydym yn cael ein defnyddio fel enghraifft o arfer gorau gan weithrediadau ambiwlans awyr ledled y byd. Rydym wedi cyflawni hyn gyda'n gilydd ac mae'n rhywbeth y gall pawb fod yn falch ohono. Rydym wedi ymateb i dros 43,000 o alwadau brys ers i ni gael ein sefydlu.

 

Dim ond gyda'ch cymorth a'ch ymddiriedaeth chi rydym wedi llwyddo i gyflawni hyn.

 

Pobl Cymru sydd wedi bod wrth wraidd pob penderfyniad a wnaed, a phopeth sydd wedi cael ei wneud, dros y 21 mlynedd diwethaf. Rydym yn gobeithio, ac yn credu, nad ydym wedi eich siomi dros y ddau ddegawd diwethaf.

 

Bydd hyn yn wir ar gyfer y degawdau nesaf, beth bynnag a ddaw.

 

Mae angen eich cymorth arnom i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

 

Ond, p'un a fyddwch yn ein cefnogi ai peidio, mae ein hymrwymiad i chi'n ddiamod.

 

Gobeithio na fydd angen ein gwasanaeth arnoch ond rydym ar gael 24/7 os bydd ein hangen arnoch – pryd bynnag a lle bynnag yr ydych.

 

Diolch yn fawr.