Mae postfeistr Bancyfelin wedi codi swm anhygoel o £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru – drwy fynd i’r afael â ras fynydd galetaf y byd.

Gwnaeth y tad i ddau, Dean Thomas, herio’i hun i gystadlu yn Ras Cefn y Ddraig, a’i gwelodd yn rhedeg o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd mewn chwe diwrnod – pellter o 380km, neu farathon a hanner y dydd.

Dywedodd Dean, sydd hefyd yn rhedeg swyddfeydd post allgymorth yn Llangain a Llansteffan: “Yn yr wythnosau diwethaf cyn y digwyddiad, roedd mwy a mwy o bobl yn gofyn i mi a oeddwn yn gwneud yr her i elusen, felly gwnaethom benderfynu, gydag wythnos i fynd a’r ras yn barod i gael ei chynnal, a minnau’n ddigon heini i gymryd rhan, i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Gwnaethom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru gan ei bod hi’n elusen leol bwysig i ni; mae’n achos sy'n agos at galon pawb gan nad oes yr un ohonom yn gwybod pryd y gallai fod angen y gwasanaeth arnom. Gwelsom pa mor bwysig yr oedd yr Ambiwlans Awyr pan laniodd gyferbyn â’r siop ar ddechrau’r flwyddyn pan oedd angen eu help ar un o drigolion ein pentref.

“Yn eironig ddigon, cefais fy nal mewn traffig ar y ffordd i gofrestru i’r ras oherwydd gwrthdrawiad difrifol ar y ffordd lle’r oedd angen cymorth yr ambiwlans awyr ar feiciwr modur. Gwnaeth hyn gadarnhau ein dewis elusen oherwydd y gwaith a’r gwasanaeth arbennig y mae’n eu darparu.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Tra y canolbwyntiodd Dean ar yr orchest ei hun, canolbwyntiodd ei wraig Anthea, sydd hefyd yn gweithio yn y swyddfa bost a’r siop ym Mancyfelin, a’u dwy ferch, Ellie a Megan, ar y gwaith codi arian.

I ddechrau, roedd Dean yn gobeithio codi £1,000 ar gyfer yr elusen sy’n achub bywydau, ond aeth heibio'r targed hwnnw mewn dim o beth.

Dywedodd: “Mewn gwirionedd, Anthea a’r merched wnaeth godi’r arian, dim ond rhedeg wnes i. Dim ond wythnos cyn y digwyddiad y dechreuon ni ac roedd yr ymateb yn anghredadwy.

“Dim ond drwy lafar gwlad y datblygodd pethau mewn gwirionedd. Mewn ffordd, rydym yn eithaf lwcus ein bod yn gweld nifer fawr o bobl yn y siop a’r swyddfeydd post. Rwy’n credu ein bod ni wedi disgwyl codi mil o bunnoedd oherwydd i ni ddechrau mor hwyr, felly gwnaeth haelioni a chefnogaeth y bobl i’r elusen roi sioc aruthrol i ni.”

Nid yw gwthio ei gorff i’r eithaf yn rhywbeth dieithr i Dean, a gymerodd ran yn ei hanner marathon cyntaf yn 13 oed, ac sydd wedi cwblhau naw marathon yn y gorffennol, sy’n cynnwys tri Marathon Llundain a phum Marathon Eryri.

Mae wedi cymryd rhan yn Ras Ryngwladol yr Wyddfa, sef ras i gopa’r Wyddfa ac yn ôl i Lanberis 15 gwaith a Fan Dance Bannau Brycheiniog. Mae Dean hefyd wedi ymddangos yng nghyfres 4 Ninja Warrior UK.

Wrth i Dean fynd i’r afael â’r daith redeg eithafol ar hyd asgwrn cefn Cymru, gwnaeth anaf ei daro ar ddiwrnod pump.

Ychwanegodd: “Cefais anaf ac roedd gen i dros 50 milltir i fynd o hyd, roedd pob cam yn boenus iawn a dyblodd y boen wrth fynd i lawr y bryniau. Gwelais feddyg y ras ar y bore olaf a ddywedodd wrthyf y gallai’r anaf fod yn ysigiad neu gallai arwain at ysigiad, felly y cyfan y gallai ei wneud oedd rhoi tâp o gwmpas fy nghrimogau – neu stopio a gorffwys – ond doedd hynny ddim yn opsiwn!”

Dangosodd disgyblion Ysgol Bancyfelin eu cefnogaeth i Dean a dilynon nhw ei ddatblygiad bob dydd. Rhannodd y plant ei ddatblygiad drwy bostio fideos dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol a dymunon nhw’n dda iddo ar hyd yr her anodd.

Ni chafodd Dean unrhyw gysylltiad â’i wraig Anthea a’i ferched yn ystod yr wythnos, gan ychwanegu: “Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth roeddwn i’n ei chael yn ystod y ras gan nad oeddwn mewn cysylltiad â neb tan i mi gyrraedd Caerdydd ar ddiwrnod olaf y ras. Roeddwn i yn fy swigen fach fy hun am yr wythnos a’r cyfan roeddwn i'n canolbwyntio arno oedd cyrraedd Caerdydd.

“Cefais fy syfrdanu o glywed cynifer o bobl oedd yn fy nhracio a chymaint roeddent yn ei fwynhau hefyd, treuliodd rhai aelodau o’r teulu a’m ffrindiau oriau o’u hwythnos yn fy nhracio ar ffurf smotyn ar fap.”

Roedd Dean ar ben ei ddigon pan gyrhaeddodd adref ym Mancyfelin i syrpréis o groeso gan drigolion y pentref a’r plant ysgol. Dywedodd: “Roedd y croeso adref yn arbennig ac yn hollol annisgwyl, dywedais wrth Anthea a’r merched ar y pryd ‘i beth mae hyn i gyd? Dim ond mynd i redeg wnes i’...Allwn i ddim credu'r peth o gwbl a doeddwn i ddim yn gwybod bod y plant wedi bod yn fy nilyn i drwy’r wythnos.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Dean wedi codi £5,000 rhyfeddol i’n helusen sy’n achub bywydau drwy gwblhau Ras flinedig Cefn y Ddraig. Er gwaetha’r ffaith iddo gael anaf ar ddiwrnod pump, ni wnaeth hynny stopio Dean rhag cwblhau ei her, ac mae hynny’n anhygoel. Dangosodd benderfyniad llwyr i barhau â’r 50 o filltiroedd a oedd yn weddill.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn mynychu argyfyngau sy'n peryglu bywydau ac yn achosi anafiadau gwael yn rheolaidd yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol a gwyddom pa mor bwysig yw ein gwasanaeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau. Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd Dean i godi arian neu a roddodd i’n Helusen. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.