Mae bachgen ysgol pum mlwydd oed wedi codi £600 drwy ddringo Pen y Fan am y tro cyntaf er budd elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cerddodd Alfie Thomas, ei frawd Jayden sy'n saith oed, a'u rhieni, Laura a Kris, i fyny copa uchaf De Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn dim ond awr ac 19 munud. Cymerodd 40 munud i'r teulu gerdded i lawr.

Penderfynodd y disgybl o Ysgol Gynradd Pantysgallog godi arian ar ôl holi ei dad am Ambiwlans Awyr Cymru, neu'r ambiwlans sy'n hedfan fel y mae Alfie yn ei alw.

Dywedodd ei dad, Kris, yn llawn balchder: “Mae Alfie wrth ei fodd yn gweld yr ambiwlans sy'n hedfan, fel y mae'n ei alw. Mae'n deall fod yr ambiwlans sy'n hedfan yno i helpu pobl sy'n sâl iawn ac, wrth i mi esbonio iddo fod yr ambiwlans awyr yn dibynnu ar godi arian a rhoddion, penderfynodd ei fod am helpu.

“Penderfynom ddringo Pen y Fan am ei fod yn anodd ond yn gyraeddadwy. Hwn oedd y tro cyntaf iddo geisio dringo unrhyw fynydd, felly roedd yn her iddo. Rydym ni i gyd yn falch iawn ohono – o'r dechrau pan awgrymodd wneud rhywbeth i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru hyd at y diwedd wrth wylio ei goesau bach yn rhedeg am y copa. 

“Roeddem yn meddwl y byddai'n rhaid i ni ei gario ar ryw adeg, ond roeddem yn anghywir. Llwyddodd i faeddu pob un ohonom! Roeddem ni i gyd ychydig yn emosiynol wrth iddo orffen y daith gerdded yn wên o glust i glust.”

Mae'r teulu o Ferthyr Tudful yn falch iawn o'r swm y mae Alfie wedi'i godi er budd yr elusen sy'n achub bywydau sydd wedi cynnwys rhoddion gan athrawon, ffrindiau a theulu. Hoffai'r teulu ddiolch yn arbennig i gwmni Evans Taxis am ei rodd hael.

Ychwanegodd Kris: “Mae ein ffrindiau a'n teulu wedi bod yn gefnogol iawn o Alfie. Mae eu rhoddion wedi gwneud hyn oll yn bosibl. Rwy'n credu eu bod, fel ni, yn falch iawn o Alfie.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Alfie a'i deulu. Mae cerdded i gopa Pen y Fan yn heriol i'r rhan fwyaf o bobl, heb sôn am blentyn pum mlwydd oed! Gwnaeth Alfie yn dda iawn i'w gwblhau mewn dim ond awr ac 19 munud, ac rydym wir yn gwerthfawrogi ei ymdrechion. Bydd Alfie, a phawb a roddodd arian, yn helpu i gadw'r ambiwlans sy'n hedfan yn yr awyr.”