18/08/2020

Mae tad anhunanol o Swydd Stafford wedi dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed drwy ofyn i ffrindiau a theulu godi arian i'r elusen a helpodd i achub ei fywyd – yn hytrach na chardiau neu anrhegion.

Roedd Dan Seedhouse o Amington yn gobeithio codi £500 i Ambiwlans Awyr Cymru, ond llwyddodd gyda help ei deulu a'i ffrindiau i godi £1,548.

Y llynedd, bu Dan mewn damwain beic modur ddifrifol yn ystod penwythnos gwersylla yng Nghymru. Roedd yn teithio 50mya pan dynnodd car allan o'i flaen ar yr A5. Yn ffodus i Dan, roedd meddyg a nyrs yn mynd heibio ar y pryd, a gwnaethant achub ei fywyd pan stopiodd anadlu ar safle'r ddamwain.

Roedd meddygon yr Elusen wrth law pan stopiodd anadlu am yr eildro ac, ar ôl achub ei fywyd, gwnaethant ei gludo yn ddiogel i Ysbyty Prifysgol Stoke.

Wrth feddwl am bwysigrwydd codi arian i'r Elusen, dywedodd Dan: "Roeddwn mewn damwain eithaf difrifol y llynedd. Gwnaeth Ambiwlans Awyr Cymru chwarae rôl enfawr wrth achub fy mywyd. Mae'r meddygon yn arwyr ac ariennir yr hofrenyddion gan roddion.

"Nid oes angen unrhyw beth arnaf mewn gwirionedd. Mae gennyf lawer o offer technoleg a theganau na allaf eu defnyddio, felly penderfynais roi rhywbeth yn ôl i'r achubwyr bywyd hyn. Felly, gofynnais i bobl beidio â phrynu unrhyw gardiau nac anrhegion, os oeddent yn bwriadu gwneud, a rhoi arian i'r elusen anhygoel hon yn lle hynny."

Yn dilyn ei ddamwain, bu'n rhaid i Dan aros am gryn dipyn o amser yn yr uned gofal critigol. Torrodd Dan sawl asgwrn, gan gynnwys toriad T1/T2 – roedd angen sawl pin a gosodiadau metel eraill arno.

Ychwanegodd Dan, "Fodd bynnag, mae hyn yn golygu nad oes gennyf unrhyw deimlad na symudiad o fy mreichiau i lawr. O ganlyniad i dynnu llinyn asgwrn y cefn, mae tannau'r llais wedi'u parlysu, rwy'n cael trafferth llyncu, mae gen i olwg ddwbl, ac ychydig iawn o symudiad yn fy mraich chwith."

Chwe mis yn ddiweddarach, trosglwyddwyd Dan i Ganolfan y Canolbarth ar gyfer Anafiadau i Linyn Asgwrn y Cefn yng Nghroesoswallt i ddechrau ar ei daith tuag at welliant. Oherwydd y pandemig presennol a'r risgiau sy'n wynebu Dan am fod ganddo draceostomi, penderfynwyd y dylai ddychwelyd i'w gartref newydd sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'n hyfryd clywed straeon am bobl fel Dan sydd wedi bod drwy ddigwyddiad sydd wedi newid ei fywyd, ond sy'n parhau i ddod o hyd i ffordd o ddweud diolch i'n Helusen. Pob dymuniad da i Dan wrth iddo wella, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi arian i ddathlu pen-blwydd arbennig Dan yn 40. Pen-blwydd Hapus gan bawb yma!"