Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan annatod o Ambiwlans Awyr Cymru; maent yn darparu gwybodaeth ychwanegol, sgiliau a chymorth parhaus sy'n cefnogi'r Elusen ar draws ein swyddogaethau, drwy fynd i ddigwyddiadau codi arian yn y gymuned, helpu yn ein siopau neu weithredu fel Ymddiriedolwyr.
Ni fyddai'n bosibl i ni ddarparu ein gwasanaethau achub bywydau heb ein gwirfoddolwyr, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni ni waeth pa ddull o'n helpu y byddwch yn ei ddewis.
.
"Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn gefn a chalon ein Helusen. Maent yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion ac maent yn hanfodol i'r gwaith o godi'r arian sy'n ein galluogi i achub bywydau ledled Cymru.
Rydym yn falch o weithio gyda thîm o wirfoddolwyr amrywiol sy'n dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiad ac sy'n ein helpu i wneud ein gwaith hollbwysig.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser gyda ni, y bydd y gwaith yn rhoi boddhad i chi, ac y byddwch yn teimlo eich bod yn aelod o dîm ymroddedig."
Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser mewn amrywiaeth eang o feysydd o fewn ein timau manwerthu, trafnidiaeth, codi arian a gweinyddu.
P'un a oes gennych awr neu 20 awr i'w sbario bob wythnos, bydd croeso i chi ymuno â'n tîm.
Edrychwch i weld pa rôl sydd fwyaf addas i chi:
Read more
Cefnogwch ein hadrannau codi arian a gweinyddu. Read more
Gwirfoddolwch yn eich cymuned leol. Read more
Cefnogwch ein tîm manwerthu. Read more
Cyfle i helpu yn ein stordy prysur iawn. Read more