Gall bod yn rhan o argyfwng meddygol neu ddamwain ddifrifol newid eich bywyd yn sylweddol. Gall fod yn anodd i'r claf a'i deulu.
Os ydych wedi derbyn triniaeth gan ein criw, ni ddaw'r cymorth i ben unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ysbyty.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb, neu angen siarad â rhywun, rydym yma i'ch helpu drwy gydol eich cyfnod gwella.
Os ydyn ni wedi eich helpu chi neu aelod o’ch teulu, hoffem glywed gennych. Rydym yn elusen anibynnol sy’n llwyr ddibynnol ar eich cefnogaeth er mwyn parhau â’n gwasanaeth sy’n achub bywydau. Mae straeon go iawn yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth i ni geisio codi arian ac ymwybyddiaeth. Gall rhannu eich stori ysbrydoli eraill i’n cefnogi.