Mae Asiantiaid NFU Mutual yn Aberhonddu wedi rhoi £6,379 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am eu cyfaill, Brian Collings.

Cafodd Brian, a oedd yn chwarae pêl-droed pump bob ochr unwaith yr wythnos gydag Alan Bugler o asiantaeth NFU Mutual yn Aberhonddu, ataliad y galon yn ystod gêm. Er gwaethaf holl ymdrechion ei gyfeillion a meddygon Ambiwlans Awyr Cymru, bu farw Brian yn ddiweddarach y noson honno.

Fis diwethaf, cyflwynodd Asiantiaid NFU Mutual yn Aberhonddu y rhodd i un o swyddogion codi arian yr Elusen, Helen Pruett, a godwyd gan Gronfa Rhodd Asiantaeth NFU Mutual.

Mae NFU Mutual wedi dyrannu Cronfa Rhodd Asiantaeth o£1.92m er mwyn cefnogi elusennau lleol, llinell flaen yn ystod 2022.

I sicrhau y dosberthir y rhoddion hyn ledled y DU, mae Asiantiaid NFU Mutual, sydd â mwy na 295 o swyddfeydd ledled y wlad, wedi cael y cyfle i enwebu elusennau lleol i gael cyfran o'r arian.

Bydd Alan yn trefnu digwyddiadau codi arian yn y dyfodol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru er cof am Brian.

Ychwanegodd Alan, sy'n gweithio fel Asiant yn swyddfa Aberhonddu: “Fel grŵp o gydweithwyr sy'n chwarae pêl-droed, byddwn yn trefnu digwyddiadau codi arian bach er cof am Brian i Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym hefyd wedi cael y cyfle i roi rhodd elusennol i Ambiwlans Awyr Cymru drwy Gronfa Rhodd Asiantaeth NFU Mutual, a fydd yn cefnogi'r cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud i'r gymuned.”

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd Helen Pruett: “Roedd yn hyfryd cwrdd â phawb yn asiantaeth NFU Mutual, er gwaethaf yr amgylchiadau trist. Mae'r arian a godwyd drwy Gronfa Rhodd Asiantaeth NFU Mutual yn deyrnged hyfryd i Brian Collings.  Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Bydd rhoddion fel yr un hon yn ein helpu i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglen rhodd elusennol NFU Mutual, ewch i https://www.nfumutual.co.uk/about-us/the-nfu-mutual-agency-giving-fund