Cyhoeddwyd: 07 Awst 2024

Mae merch hynod garedig wedi codi £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gerdded i gopa Pen y Fan er cof am ei thad. 

Collodd Amelia Millett ei thad, Adam, 26 oed, yn dilyn damwain car, pan oedd hi'n bedair oed. Cafodd Adam ei gludo gan Ambiwlans Awyr Cymru i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y gwrthdrawiad, ond bu farw yn ddiweddarach.

Er cof am ei thad, gwisgodd Amelia ei sgidiau cerdded a dringodd i gopa mynydd uchaf De Cymru, sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cafodd Amelia, o Bont-y-pŵl, sydd wedi'i disgrifio fel merch ‘garedig â chalon dyner’, ei chefnogi gan ei ffrindiau a'i theulu balch yn ystod ei hymgyrch codi arian.

Dywedodd Tiffany, mam falch Amelia: “Cerddodd Amelia i gopa uchaf De Cymru! Roedd yn anodd, ond llwyddon ni! Pan oeddem hanner ffordd i fyny'r mynydd, hedfanodd Ambiwlans Awyr Cymru heibio i ni a rhoddodd hynny hwb mawr i ni gyrraedd y copa.”

Hon oedd ymgyrch codi arian gyntaf Amelia, sy'n 12 oed, ar gyfer yr Elusen, ac mae eisoes wedi rhagori ar ei tharged o £250 drwy godi £1,500 hyd yma.

Ers i Adam farw, mae ei deulu wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a, hyd yma, mae wedi codi tua £40,000 i'r Elusen.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth sy'n cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.  

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. 

Ychwanegodd Tiffany: “Fel teulu rydym yn falch iawn o Amelia. Mae wedi bod drwy gymaint wedi colli ei thad yn bedair oed. Mae'r teulu bob amser wedi codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ond roedd Amelia eisiau gwneud hyn iddi hi ei hun.

"Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei galw ar gyfer ei thad, ac roeddent wir yn anhygoel a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i'w gadw yma. Nid oes digon o eiriau i ddisgrifio'r help y byddant yn ei roi i bobl, ac maent yn haeddu llawer mwy o gydnabyddiaeth am eu gwaith.

“Mae'n deimlad arbennig gweld merch 12 oed yn penderfynu ei bod am gerdded i fyny Pen y Fan er cof am ei thad.”

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Cerddodd Amelia, sy'n mynd i Ysgol Gyfun Abersychan, ac sydd â dwy chwaer ac un brawd iau, i gopa Pen y Fan ddydd Sul 4 Awst.

Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau i Amelia am lwyddo i gerdded i gopa Pen Y Fan. Mae Amelia yn ferch arbennig, er gwaethaf popeth y mae wedi bod drwyddo roedd eisiau codi arian i'r Elusen a geisiodd achub bywyd ei thad.  Ers i Adam farw, mae ei deulu wedi codi'r swm anhygoel o £40,000 i'n hachos, sy'n wych. A hithau ond yn 12 oed, roedd Amelia eisiau codi arian er cof am ei thad, sy'n beth caredig iawn ac yn deyrnged hyfryd.

“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Amelia gyda'i hymgyrch codi arian. Mae wedi codi swm anhygoel o £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd ymgyrchoedd codi arian, fel un Amelia, yn ein helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd ledled Cymru. Diolch yn fawr am gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae cyfle o hyd i gefnogi Amelia drwy roi arian drwy ei thudalen GoFundMe