Mae mam-gu ysbrydoledig o Gaerdydd, a ddechreuodd nofio yn y môr ar ôl cael sepsis, wedi cymryd rhan mewn her ddŵr er mwyn codi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Lee O'Brien, 59, o Ystum Taf, ymhlith cannoedd o bobl ledled Cymru a gymerodd ran yn nigwyddiad codi arian Sblash 21 yr Elusen. Fel rhan o'r her, plymiodd pawb i'r dŵr 21 o weithiau yn ystod mis Medi er mwyn dathlu pen-blwydd Ambiwlans Awyr Cymru yn 21 oed.

Er bod ganddi sawl cyflwr iechyd, roedd Lee, sy'n fam-gu i bedwar, yn awyddus i gymryd rhan yn yr her a chodi arian i'r Elusen sydd mor agos at ei chalon.  Llwyddodd i wynebu'r dŵr oer a nofio 21 o weithiau yn y môr o amgylch y Barri. Ymhlith ei chefnogwyr roedd ei grŵp nofio môr, The Watchtower Waders. Ymunodd Lee â'r grŵp ddwy flynedd yn ôl, fisoedd ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty oherwydd Sepsis a Covid-19.

Treuliodd Lee dair wythnos yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gan gynnwys cyfnod yn yr Uned Gofal Dwys, ar ôl iddi lewygu yn ei chartref ym mis Mai 2020.

Dywedodd: “Y gred yw mai haint yng nghoden y bustl wnaeth achosi'r sepsis. Dydw i ddim yn cofio dim ac, i ddechrau, roedden nhw'n credu fy mod i wedi cael strôc. Cefais i Covid-19 yn yr ysbyty ac roeddwn i'n sâl iawn. Roedd popeth yn niwlog iawn ac mae'r cyfan ychydig yn aneglur o hyd. Cymerodd hi 18 wythnos i mi godi yn ôl ar fy nhraed a dechrau teimlo'n well.

“Cyn Covid, roeddwn i'n mwynhau nofio. Byddwn i'n mynd i'r pwll nofio yn rheolaidd gyda Rachael, fy merch, a'r ddau ŵyr. Roeddwn i am wneud rhyw fath o ymarfer corff ond doedd dim llawer o bethau y gallwn i eu gwneud am fy mod i'n cael problemau cefn ac yn aros am lawdriniaeth ar fy nghefn.

“Cefais wybod am grŵp nofio môr ym Mhenarth sy'n nofio gyda'r wawr bob dydd a dechreuais nofio gyda nhw am rai misoedd. Yna, clywais am y Watchtower Waders, sy'n nofio ym Mae Watchtower yn y Barri. Pan ymunais ym mis Medi 2020, dim ond tua 15 ohonom oedd yn y grŵp, ond nawr mae 1,400 ohonom.”

Yn ystod mis Medi, plymiodd y rhai oedd yn cymryd rhan yn her Sblash 21 mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol. P'un a oeddent yn nofio yn y pwll nofio lleol, yn cael bath rhewllyd, yn cael cawod o dan raeadr, neu'n ymlacio mewn twba twym, chwaraeodd pob un eu rhan wrth ddathlu carreg filltir Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd yr Elusen ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 ac ers hynny mae wedi ymateb i fwy na 43,000 o alwadau hyd yma. Mae'n darparu gwasanaeth awyr brys a hanfodol 24/7 i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd a dyma'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n benodol ar gyfer Cymru. 

Roedd Lee am gymryd rhan yn her Sblash 21 er mwyn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen bwysig.

Dywedodd: “Rwy'n gweld yr hofrennydd yn hedfan dros fy nhŷ bob dydd gan fy mod i'n byw gerllaw'r Ysbyty Athrofaol. Maen nhw'n hedfan uwch fy mhen pan rwy'n nofio yn y bae ac rwy'n meddwl eu bod yn gwneud gwaith anhygoel. Rwyf bob amser wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ac rwy'n rhoi rhodd fisol.

“Sblash 21 oedd yr her berffaith i mi am fy mod i'n mwynhau nofio yn yr awyr agored. Rwy'n dwlu ar y dŵr oer a dydw i ddim yn meddwl dwywaith cyn plymio i mewn. Rwy'n caru bod allan yn yr awyr agored ac mae'n fy helpu i ymlacio. Mae cymaint o fuddiannau ac mae'n wych i'ch iechyd meddwl.

“Rwy'n nofio am awr fel arfer, weithiau ddwywaith y dydd, gan gynnwys nofio gyda'r nos. Pan fyddwch chi'n dod allan o'r dŵr, mae'n teimlo bod eich coesau yn perthyn i rywun arall ac rwy'n mwynhau'r gwmnïaeth ar ôl hynny pan fyddwn ni'n eistedd i lawr gyda diodydd poeth ac yn sgwrsio.

“Yn ystod yr her, tynnais lun bob dydd am 21 diwrnod. Roedd y grŵp mor gefnogol. Roedden nhw'n fy annog, yn curo dwylo ac, ar y diwrnod olaf, fe wnaethon nhw fy nhaflu i fyny yn y dŵr. Rwyf wedi cael problemau gyda fy mhwysau ar ôl i mi fethu cerdded, ond nawr mae'r pwysau yn dechrau diflannu. Rwyf wedi cael problemau gyda'r afu a'r arennau ond mae pethau'n dechrau gwella erbyn hyn.

“Cyn ymuno â'r grŵp, roeddwn i'n eistedd yn y tŷ yn gwneud dim. Doedd gen i ddim bywyd, heblaw am fy wyrion. Llwyddais i godi £545 i Ambiwlans Awyr Cymru a'r Watchtower Waders wnaeth gyfrannu'r swm hwnnw i gyd bron. Rwy'n bwriadu cymryd rhan mewn llawer mwy o heriau, gan godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a'r RNLI am yn ail.”   

Dywedodd Laura Coyne, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Lee am gymryd rhan yn nigwyddiad Sblash 21 ac am godi £545 i Ambiwlans Awyr Cymru. Ymrwymodd i nofio yn y môr 21 o weithiau'n olynol ac mae'n wych ei bod wedi cael hwyl wrth godi arian.

“Fel rhan o Sblash 21 plymiodd pobl o bob oed i'r dŵr, llawer ohonynt i ddŵr oer, er mwyn cefnogi ein hymgyrch a dathlu pen-blwydd ein Helusen hyfryd yn 21 oed. Da iawn i bawb am gymryd rhan ac anfon eich lluniau gwych atom. Bydd eich rhoddion yn helpu'r Elusen i barhau i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.