Helpwch elusen sy'n achub bywydau i nodi carreg filltir arbennig Cyhoeddwyd: 04 Mehefin 2024 Er mwyn nodi bod Ambiwlans Awyr Cymru yn nesáu at fod wedi ymateb i 50,000 o alwadau, mae'r Elusen yn gofyn i'w chefnogwyr ymgymryd â thaith gerdded 50 milltir ym mis Mehefin. Eich taith gerdded chi, eich ffordd chi, yw hon, a bydd pob cam yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywyd! Helpwch yr elusen i barhau i fod yno i bobl Cymru, fel y mae wedi bod ers dros 23 mlynedd. Mae'r elusen ar gyfer Cymru gyfan yn rhagweld y bydd wedi ymateb i 50,000 o alwadau erbyn diwedd mis Mehefin. Mae Cerdded Cymru yn ymgyrch flynyddol sy'n galluogi cyfranogwyr i godi arian drwy gerdded, loncian neu redeg pellteroedd gwahanol bob blwyddyn. Eleni, er mwyn nodi'r garreg filltir arbennig hon, mae'r Elusen yn gofyn i gefnogwyr gerdded, rhedeg neu loncian 50 milltir yn ystod mis Mehefin.Felly, os ydych wedi colli rhywfaint o'ch cymhelliant ac yn awyddus i wynebu her, dyma'r digwyddiad i chi. Eich taith gerdded chi, eich ffordd chi, yw hon, a bydd pob cam yn gwneud gwahaniaeth sy'n achub bywyd! Mae'r Elusen wedi bod yn ymateb i alwadau ers 23 mlynedd, a bydd eich cefnogaeth chi yn ei galluogi i barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Mae Cerdded Cymru 2024 yn agored i bobl o bob oed, a'r peth gwych am yr her rithwir yw ei bod yn rhoi'r cyfle i 'gerddwyr' fynd allan i archwilio Cymru neu wneud eu stepiau gartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed! Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu 24/7 ledled Cymru, ac mae angen iddi godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae digwyddiad llwyddiannus Cerdded Cymru wedi codi swm anhygoel o £110,000 ar gyfer yr achos. Gallwch gofrestru am ddim; ond anogir cyfranogwyr i godi arian ar gyfer yr Elusen. Bydd cerddwyr a fydd yn codi £50 yn cael crys-t chwaraeon Ambiwlans Awyr Cymru sydd newydd ei ddylunio. Ers 2020, mae ymgyrchwyr codi arian o bob oed wedi dangos eu cefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau, gan gynnwys Kara Richards, merch ysgol 9 oed, a gymerodd ran yn Cerdded Cymru yn 2022 a 2023. Cododd Kara dros £1,000 ar gyfer yr Elusen. Y peth gwych am yr her rithwir yw nad oes rhaid i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru – cymerodd Lawrence a Julie Morris, y ddau o Abertyleri, ran o Gyprus! Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r elusen yn eithriadol o falch ei bod yn nesáu at fod wedi ymateb i 50,000 o alwadau. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ac ymroddiad parhaus ein cefnogwyr, ein gwirfoddolwyr a'n staff. Rydym yn gofyn i chi ymuno â ni i nodi'r garreg filltir bwysig hon yng Nghymru, drwy gymryd rhan yn Cerdded Cymru drwy gerdded, loncian neu redeg 50 milltir ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Ni fyddai'r Elusen yn bodoli heb gefnogaeth y cyhoedd. "Mae Cerdded Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed ddod ynghyd â ffrindiau, teulu, ffrindiau ysgol a chydweithwyr i chwarae rôl bwysig wrth helpu i gefnogi ein gwasanaeth sy'n achub bywydau yng Nghymru, gan gadw'n heini a chyflawni her bersonol ar yr un pryd. "Gwnaethom lansio Cerdded Cymru am y tro cyntaf yn 2020, a phob blwyddyn mae ein cefnogwyr yn gwisgo eu hesgidiau cerdded ac yn codi arian hanfodol ar gyfer ein hachos. Rydym yn falch iawn fod yr ymgyrch hon wedi codi dros £110,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae heriau fel Cerdded Cymru yn chwarae rôl hanfodol wrth godi'r arian sydd ei angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru.” Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Nodwch y garreg filltir arbennig hon gydag Ambiwlans Awyr Cymru drwy gofrestru ar gyfer Cerdded Cymru heddiw; ewch i www.walesairambulance.com/walk-wales-2024 Manage Cookie Preferences