'Ghostbusters' yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm drwy godi arian ar gyfer Elusen sy'n achub bywydau Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2024 Mae grŵp o bobl sy'n ymddiddori yn y byd goruwchnaturiol yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau ffilm Ghostbusters gyda blwyddyn o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae gan Ghostbusters Canolbarth Cymru naw aelod gan gynnwys Katie Craddock a Matthew Davies o Grucywel. Matt yw'r arbenigwr technegol, ac mae'r ffilm wedi ei gyfareddu ers pan oedd yn blentyn. Ef sy'n creu'r holl bropiau; mae ganddynt ectomobile yn ogystal â chi arswyd ('terror dog') o faint gwir. Dywedodd Matt, cyn-ddiffoddwr tân wrth gefn: "Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â'r ambiwlans awyr sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, ac maent yn gwneud gwaith anhygoel." Mae'r achos hefyd yn un sy'n agos at ei galon oherwydd y bu angen i'w fab, sy'n 11 oed, gael help ganddynt pan roedd yn fabi. Dywedodd Matt: “Arferai gael ffitiau gwres, ac yn amlwg nid oeddem yn gwybod hynny tan iddo gael y cyntaf. Ond roedd y cyntaf yn un arbennig o wael. “Bu'n rhaid ffonio'r ambiwlans am nad oedd y ffitiau yn dod i ben, a chafodd ei gludo gan Ambiwlans Awyr Cymru wedyn i Ysbyty Amwythig am na allai'r ambiwlans gwreiddiol ei helpu.Hwblaw amdanyn nhw, ni fyddai yma heddiw oherwydd stopiodd anadlu ar ei ffordd i'r ysbyty. Bu'n rhaid iddynt ei ddadebru a gosod tiwb ynddo." Ychwanegodd Kate: "Rydym yn teimlo'n angerddol iawn am y gwaith y mae'r ambiwlans awyr yn ei wneud.Cafodd tad Gareth Mates, aelod arall o'n grŵp, ataliad ar y galon ac yn anffodus, ni ellid ei achub.Ond daeth yr ambiwlans awyr ato a gwnaethant eu gorau. "Felly yn amlwg rydym am godi cymaint o arian ag y gallwn er mwyn sicrhau bod y rheini sydd angen y gwasanaeth yn cael y gofal cywir pan fyddant mewn cyflwr critigol." Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. Bydd haf Ghostbusters Canolbarth Cymru eleni yn brysur iawn wrth iddynt fynychu digwyddiadau ar hyd a lled Cymru. Maent y gobeithio rhoi "gwên ar wynebau" pobl yn ogystal â "chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth sy'n achub bywydau." Dywedodd Kate: "Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod i sawl digwyddiad, ac wedi denu dilynwyr. Mae rhyddhau'r ffilmiau newydd wedi ein helpu yn fawr i ennyn diddordeb mwy o bobl. "Mae'r genhedlaeth gyntaf o blant a oedd yn hoff o'r ffilm wreiddiol bellach yn oedolion, ac mae'r genhedlaeth iau wrth eu boddau â ffilmiau a ryddhawyd yn yr 1980au." Aeth ymlaen i ddweud: "Eleni, aethom i'n 'comic con' cyntaf erioed, roedd un ohonynt yn Arena Abertawe ym mis Ebrill, un arall yn y Barri, ac rydym wedi cael gwahoddiad i'r ICC yng Nghasnewydd ym mis Awst hefyd. Bydd hwnnw'n ddigwyddiad mawr i ni. "Rydym hefyd yn mynd i ddigwyddiadau a gynhelir gan gynghorau, felly eleni rydym yn gweithio gyda Croeso Caerffili ac rydym eisoes wedi bod i Ffeiriau Ystrad Mynach, Coed-duon a Bargoed. Pob un ohonynt yn codi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. "Aethom i ddigwyddiad pedwar diwrnod hefyd yng Nghanolfan y Red Dragon yng Nghaerdydd. Daethom â'n holl bropiau a chyfarpar, ac roedd gweithgareddau lliwio ar gael i'r plant yn ogystal â ffatri sleim. "Mae pobl wrth eu boddau ac yn mwynhau'n fawr. Mae cannoedd o luniau'n cael eu tynnu gyda ni." Bydd gan Ghostbusters Canolbarth Cymru benwythnos prysur iawn ar 8-9 Mehefin. Dywedodd Matt: "Ddydd Sadwrn, byddwn yn dathlu Diwrnod Ghostbusters y byd, ac mae 40 o flynyddoedd ers rhyddhau’r ffilm wreiddiol yn y sinemâu. "Bydd lein-yp arbennig iawn ym Mharti Traeth Rhisga. Bydd Ghostbusters Preston, Bryste a Sir Gâr yn ymuno â'n tîm. "Bydd dau ectomobile yn ymuno â ni yn ogystal â char heddlu dinas Efrog Newydd. Byddwn yn codi arian drwy gydol y penwythnos, gyda gweithgareddau ar y dydd Sul hefyd." Mae'n rhaid i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw ein Cerbydau Ymateb Cyflym ar y ffordd - mae rhoddion a digwyddiadau codi arian yn allweddol o ran cynnal y gwasanaeth. Dywedodd Matt: "Rydym wedi codi tua £1,000 hyd yma ar gyfer yr ambiwlans awyr a gobeithio y byddwn yn parhau i ychwanegu at y swm hwnnw dros yr Haf. "Mae'r gwasanaeth yn darparu gwasanaeth hanfodol. Rydych yn ddiogel o wybod am yr hyn y gallant ei wneud, a'u bod ar gael.Rwyf wedi eu gweld ar waith dro ar ôl tro. Maent wedi achub bywydau pobl rwy'n eu hadnabod, a dyma ein ffordd o ddweud diolch." Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'n hyfryd cael cefnogaeth gan Ghostbusters Canolbarth Cymru i nodi 40 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm!Ni allwn ddiolch i'r tîm ddigon am godi arian ac ymwybyddiaeth am y gwaith rydym yn ei wneud, wrth iddynt gymryd rhan mewn digwyddiadau ledled Cymru eleni. "Mae ein helusen yn dibynnu ar garedigrwydd ein codwyr arian i sicrhau y gall ein gwasanaeth ledled Cymru barhau i ddarparu'r gwasanaeth sy'n achub bywydau. Rydym yn achub miloedd o gleifion mewn sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff, a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y blynyddoedd sydd i ddod." Manage Cookie Preferences