Digwyddiad Polo Brenhinol yn codi £100K i Ambiwlans Awyr Cymru Cyhoeddwyd: 05 Awst 2024 Mae digwyddiad polo elusennol mawreddog a gynhaliwyd gan Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, fis diwethaf (12/07/24) wedi codi £1000,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Cynhaliwyd Cwpan Polo Elusennol Brenhinol Out-Sourcing Inc. yng nghlwb polo Guards yn Windsor. Chwaraeodd y Tywysog, a gyhoeddwyd fel Noddwr Brenhinol Ambiwlans Awyr Cymru ym mis Chwefror 2023, fel rhan o dîm U.S. Polo Assn. Roedd y twrnamaint hefyd yn cynnwys tîm Brand Machine Group a thîm polo BP Healthcare. Mewn gornest gron gyffrous, llwyddodd tîm U.S. Polo Assn. i amddiffyn y teitl a enillodd y llynedd. Roedd Ambiwlans Awyr Cymru ymhlith 11 o elusennau a ddewiswyd i elwa o'r digwyddiad, ac roedd y rhai eraill yn cynnwys SHOUT, tîm Achub Mynydd Cymru a Lloegr, Child Bereavement UK, y Gymdeithas Affricanaidd Frenhinol, Place2Be, Gweithredu dros Blant, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Blackthorn Rally, HMS Oardacious a'r Royal Marsden. Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei dewis fel un o 11 elusen i gael budd o Gwpan Polo Elusennol Brenhinol Out-Sourcing Inc. Mae hyn wir yn anhygoel. “Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi dod yn rhan hanfodol o'r ymateb brys yng Nghymru ac mae angen i ni godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ein hofrenyddion yn yr awr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Roedd yr arian a gawsom yn dilyn digwyddiad Cwpan Polo Brenhinol y llynedd yn gam enfawr tuag at gyrraedd y targed hwnnw. Gwnaeth pob ceiniog sicrhau y gallwn helpu'r rhai sy'n dioddef salwch neu anaf sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff. I roi hynny yn ei gyd-destun, gwnaethom ymateb i bron 4,000 o argyfyngau yn ystod 2023. Rydym wedi ymateb i fwy na 50,000 o alwadau ers i ni gael ein sefydlu yn 2001. “Mae gan y Tywysog ddiddordeb brwd a rhagweithiol yn ein Helusen ac, fel cyn-beilot ambiwlans awyr ei hun, mae'n deall yn well na'r rhan fwyaf o bobl pa mor bwysig yw gwasanaeth o'r fath. Mae wedi dod yn aelod brwdfrydig o deulu Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym mor falch o fod wedi cael ein dewis ymhlith y rhai i elwa ar y Cwpan Polo Elusennol Brenhinol eto eleni.” Dywedodd David M. Matsumoto o Out-Sourcing Inc: “Mae'n fraint gen i ac Out-Sourcing i gefnogi'r gêm polo elusennol. Mae gwybod y bydd y digwyddiad polo hwn yn codi arian mawr ei angen i 11 elusen ardderchog yn cyd-fynd yn berffaith ag ethos elusennol y cwmni ei hun. Rydym yn canolbwyntio ar greu llwyfannau i dynnu sylw at ymdrechion elusennol ym mhedwar ban byd a'u cefnogi, gan gynnwys yma yn y DU.” Mae Ambiwlans Awyr Cymru, a sefydlwyd yn 2001, ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n cynnig gofal critigol uwch sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng Sector Cyhoeddus a Thrydydd Sector unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys symudol’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Roedd y Cwpan Polo Elusennol Brenhinol yn bosibl o ganlyniad i'w noddwyr hael a phartneriaid y digwyddiad. Mae'r rhain yn cynnwys Out-Sourcing Inc, Guards Polo Club, U.S. Polo Assn., Brand Machine Group, BP Healthcare, Lugano Diamonds, Audi, AP&Co, The Cox Family of Oklahoma, Whispering Angel a Moët Chandon. Manage Cookie Preferences