Cwmni o Aberpennar yn cerdded fyny Pen y Fan ar gyfer Cerdded Cymru Mae cwmni o Aberpennar wedi codi dros £1,245 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r Elusen achub bywyd chwaer un o'i gyflogeion. Dim ond 27 oed oedd Sarah Jones, sydd o Rondda Cynon Taf, pan wnaeth ddioddef ataliad y galon yn ei gwaith y llynedd. Rhoddodd Emileigh, ei ffrind a'i chydweithiwr 'dewr ac anhunanol', ddadebriad cardio-anadlol (CPR) iddi hyd nes y cyrhaeddodd y meddygon a chymryd ei gofal drosodd. Ers hynny, mae Sarah wedi codi swm anhygoel o £5,000 ar gyfer y gwasanaeth sy'n achub bywydau er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad. Mae Lucy, chwaer Sarah, yn gweithio i CBS (Complete Background Screening) - The Screening House, a'r mis hwn rhoddodd chwe aelod o staff eu hesgidiau cerdded am eu traed er mwyn dringo i'r copa uchaf yn Ne Cymru. Roedd yr ymgyrch codi arian yn rhan o ddigwyddiad codi arian blynyddol yr Elusen, Cerdded Cymru. Eleni, gofynnodd yr Elusen i'w chefnogwyr gerdded, rhedeg neu loncian 50 milltir er mwyn nodi ei charreg filltir o gyflawni 50,000 o alwadau ers ei sefydlu yn 2001. Gosodwyd yr her i aelodau o staff y CBS gymryd rhan yn Cerdded Cymru, a oedd yn cynnwys cerdded i fyny Pen y Fan a cherdded 50 milltir neu fwy yn ystod amser cinio, ar ôl y gwaith neu ar y penwythnos. Wrth iddo gerdded i fyny Pen y Fan, cafodd y tîm ei gefnogi gan Sarah â'i theulu estynedig. Ar ôl iddi ddioddef ataliad y galon, cafodd Sarah ddiffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD) wedi'i osod ac mae wedi gwella'n dda yn gorfforol, ond mae hi'n dal i fynd am archwiliadau'n rheolaidd. Creodd y cwmni fwrdd her hefyd er mwyn gweld pwy a allai gerdded y nifer fwyaf o filltiroedd yn ystod y mis. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Dywedodd Llefarydd ar ran CBS: "Roedd y tywydd braf yn fendith i'n cyfranogwyr ac roedd yn golygu bod pob taith gerdded yn un braf a phleserus. Elusen ddewisol y CBS eleni yw Ambiwlans Awyr Cymru. Elusen sy'n agos iawn at ein calonnau ni i gyd, ond yn agosach fyth at Lucy Jones, ein cydweithiwr, yr oedd angen ei gwasanaethau ar ei chwaer hynaf. Rydym yn cael ein hysbrydoli gan stori Sarah a'i hymroddiad i roi rhywbeth yn ôl. "Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac wedi cefnogi ein hymdrechion i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi eich haelioni yn fawr iawn. "Rydym wrthi'n cynllunio mwy o ddigwyddiadau i'w cynnal drwy gydol y flwyddyn am ein bod yn teimlo mor gryf bod angen cefnogaeth barhaus ar elusen fel hon." Llwyddodd staff y CBS i godi £305 mewn raffl Pasg drwy roi a gwerthu hamperau wedi'u llenwi ag wyau Pasg a gwin. Bydd y cwmni hefyd yn cynnal barbeciw teuluol ym mis Awst yn ogystal â raffl Nadolig er mwyn codi mwy o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian i Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch i bawb yn CBS am gymryd rhan yn ein her Cerdded Cymru. Mae'r staff yn gwybod o brofiad pa mor bwysig yw ein gwasanaeth 24/7 sy'n achub bywydau i bobl Cymru. Mae'n galonogol clywed bod y CBS, ar ôl clywed am yr hyn y mae Sarah wedi bod drwyddo, yn awyddus i gefnogi ein hachos. Bydd ei ymgyrchoedd codi arian yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru, yn union fel pan oedd angen ein help ar Sarah. “Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Drwy godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru mae CBS yn ein helpu i godi'r arian sydd ei angen arnom gymaint. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus.” Gallwch ddangos eich cefnogaeth i CBS o hyd drwy roi arian i'w thudalen JustGiving yma. Manage Cookie Preferences