Mae ffermwyr o Gymru a gymerodd ran mewn cystadleuaeth cneifio defaid wedi codi mwy na £61,000 ar gyfer elusennau.
 
Gwnaeth y Cylch Cneifio gynnal ei diwrnod cneifio defaid blynyddol yn nhafarn y Bull yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi.
 
Mae pobl o bob rhan o Ynys Môn a'r ardaloedd cyfagos yn heidio i fynychu'r digwyddiad codi arian sydd wedi sicrhau ei le yn y calendr blynyddol.

Yn ogystal â'r gystadleuaeth cneifio defaid, cafodd ocsiwn elusennol ei chynnal a gododd fwy na £43,800. Roedd y diwrnod hwyl i'r teulu hefyd yn cynnwys cystadlaethau, stondinau bwyd a diod, castell neidio, tarw rodeo, mochyn rhost blasus ac adloniant gan y Welsh Whisperer. 
 
Mae'r grŵp wedi bod yn cynnal digwyddiadau cneifio defaid ers dros ddau ddegawd ac wedi codi arian i nifer o elusennau lleol, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru. 
 
Y llynedd, roedd aelodau'r pwyllgor wedi'u syfrdanu gan eu bod wedi codi £46,275. Eleni, codwyd cyfanswm o £61,510.40 a fydd yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng dwy elusen. 
 
Dywedodd Alun Jones, Cadeirydd y Cylch Cneifio, fod digwyddiad eleni wedi rhagori ar y disgwyliadau. 
 
Dywedodd: “Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ers COVID-19 y llynedd i gofio am un o aelodau gwreiddiol y grŵp ac roedd pob un ohonom wedi'n syfrdanu ein bod wedi codi cymaint o arian. Doedden ni fyth yn meddwl y byddem ni'n codi cymaint o arian â hynny eto, ond cawsom ein syfrdanu eleni wrth gyfrif cyfanswm yr arian a godwyd, a oedd yn fwy na chyfanswm y blynyddoedd blaenorol. 

“Gwnaethom benderfynu codi arian ar gyfer dwy elusen eleni am eu bod yn agos at galonnau ein haelodau. Mae ambell aelod o'r grŵp wedi elwa ar ofal gan Hosbis Dewi Sant yn ddiweddar, felly gwnaethom benderfynu cefnogi'r elusen ymhellach. 

“Mae codi cymaint â hynny o arian mewn un diwrnod yn arbennig. Nid codi symiau mawr o arian oedd ein nod wrth drefnu'r digwyddiad. Mae'r trefnwyr yn rhoi popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pawb yn cael y diwrnod gorau posibl. 

“Hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau a'r unigolion am eu cyfraniadau hael a'u cefnogaeth, ni fyddai'n bosibl i ni gynnal y digwyddiad heb help gan bawb yn y gymuned. Nhw sy'n sicrhau bod y digwyddiad yn un llwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn.”
  
Mynychodd oddeutu 600 o bobl y diwrnod hwyl i'r teulu. Cafodd noson gyflwyno ei chynnal ychydig wythnosau wedi'r digwyddiad lle estynnwyd gwahoddiad i gynrychiolwyr o'r elusennau i dderbyn siec ar ran eu helusennau.
 
Dywedodd Mr Jones: “Gwnaethom ddefnyddio'r un fformat â'r llynedd i ryw raddau, ac mi weithiodd popeth yn dda iawn. Mae'n ddigwyddiad er mwyn cneifio defaid, ond mae'n anodd dod o hyd i gneifwyr defaid heddiw, felly mi wnaethom ni ddefnyddio beiciau er mwyn helpu i droi'r peiriant cneifio. Gwnaeth aelodau o'r gynulleidfa gymryd rhan drwy feicio a helpu i gneifio'r defaid.

“Prif ddigwyddiad codi arian y diwrnod yw'r ocsiwn elusennol ac mae busnesau lleol ac unigolion yn hael iawn. Rydyn ni'n tueddu i ofyn i bobl gyfrannu eitemau y gall pobl eu defnyddio, fel talebau neu gynnyrch amaethyddol. Roedd dros 140 o eitemau ar gael ac rwy'n credu mai'r eitem a werthodd am y pris uchaf oedd diwrnod o waith am £850.Mae pawb yn tynnu coes ei gilydd ac yn cael llawer o hwyl.”

Dros y blynyddoedd, mae'r grŵp wedi casglu bron £130,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. 
 
Dywedodd Mr Jones: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hanfodol iawn i ni yn Ynys Môn. Rydyn ni'n gymuned amaethyddol, ac mae'n elusen sy'n agos at galonnau ffermwyr. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig, ac mae pawb yn barod iawn i gefnogi'r elusen.” 
 
Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Unwaith eto, mae'r Cylch Cneifio wedi rhagori ar ddisgwyliadau i godi swm anhygoel o arian yn ystod ei digwyddiad cneifio defaid blynyddol. Ni allaf gredu y gall sefydliad cymunedol bach godi'r swm anhygoel hwn o arian mewn cyn lleied o amser. 
 
“Diolch yn fawr iawn i bob un o'r unigolion a'r busnesau a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn a byddwn yn sicrhau bod Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i achub bywydau ledled Cymru.”