Mae digwyddiad i unigolion sydd â diddordeb mewn ceir ym Mhowys wedi codi mwy na deng mil o bunnoedd i Ambiwlans Awyr Cymru mewn dwy flynedd yn unig.

Cynhaliwyd y 'Mach Run' blynyddol ger Machynlleth yn ddiweddar, gyda'r holl arian a gasglwyd yn mynd i'r elusen hofrenyddion.

Mae'r digwyddiad blynyddol i unigolion sydd â diddordeb mewn ceir, a gafodd ei sefydlu a'i drefnu gan Jason McAuley, yn cynnig diwrnod gwych yng nghanol golygfeydd gwledig godidog y canolbarth.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Jason: "Cefais y syniad ar gyfer y digwyddiad fel ffordd o ddianc rhag fy ngwaith. Fel un sy'n frwd dros geir, cynsail y syniad oedd cael cynifer o unigolion sydd â diddordeb mewn ceir o'r un anian i fwynhau gyrru yng nghefn gwlad Cymru, gan godi arian ar gyfer gwasanaeth hanfodol wrth wneud hynny. Cynhaliwyd y 'Mach Run' cyntaf yn 2018 gan ddenu dros 200 o geir a 500 o bobl i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

"Daeth pobl o bob cwr o'r DU i gymryd rhan, sy'n dyst i boblogrwydd y digwyddiad. Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf, roedd yn rhaid i ni ei gynnal eto eleni. Roedd gennym le i hyd yn oed fwy yn 2019, gyda thua 230 o gerbydau wedi cymryd rhan."

Roedd ystod eang o gerbydau wedi mentro i ffyrdd y Canolbarth eleni gydag amrywiaeth da o geir rasio, ceir clasurol, ceir egsotig, ceir rali a cheir perfformiad uchel Americanaidd hyd yn oed. Roedd y llwybr, a oedd yn dechrau ym Machynlleth, yn mynd â'r cerbydau i'r gogledd tuag at gyfeiriad Dinas a Cross Foxes cyn parhau i gyfeiriad Corris ac yna yn ôl drwy Dinas Cemmaes.

Ychwanegodd Jason: "Roedd y llwybr gwreiddiol yn ein tywys tuag at Dal-y-llyn ac ymlaen i Aberdyfi, ond yn anffodus, oherwydd llifogydd, bu'n rhaid i ni addasu'r llwybr ar y funud olaf. Er gwaethaf y tywydd, ni lwyddodd i daflu dŵr oer ar hwyliau pobl. Cafodd y gerddoriaeth fyw a'r bwyd poeth a oedd yn aros amdanynt ym Machynlleth groeso mawr.

"Mae'n rhaid i mi ddiolch i bawb a gymerodd ran eleni a'i wneud yn llwyddiant ysgubol. Diolch yn arbennig i RE-Design a roddodd gannoedd o sticeri ceir i'w gwerthu, gan godi £700.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Canolbarth Cymru, Andrew Hall: "Hoffem ddiolch i Jason am drefnu'r digwyddiad ardderchog hwn er ein mwyn ni. Mae'r cyfraniad y mae wedi'i wneud yn glodwiw iawn. Bydd y swm anhygoel a godwyd mewn dwy flynedd yn unig yn sicrhau y gallwn barhau i hedfan er mwyn achub bywydau ledled Cymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb a gymerodd rhan. Ni fyddai'r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl hebddynt."

Nid yw Jason yn dangos unrhyw arwyddion ei fod am roi'r gorau iddi, ac mae ganddo gynlluniau ar y gweill ar gyfer 2020 yn barod: "Rwy'n edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf, gyda 'Mach Run' arall wedi'i drefnu, yn ogystal â sawl 'Mini-Mach runs' i ategu'r prif ddigwyddiad blynyddol".

Dylai unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am y digwyddiad neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am 2020 fynd i: machrun.co.uk