06/08/2020

Mae mam o Ruthun wedi cymryd rhan mewn 'Park Run' bob wythnos ers mis Medi llynedd i godi dros £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Cafodd Sally Smith, 43 oed, ei hysbrydoli i godi arian i'r elusen hofrenydd ar ôl i'r meddygon sy'n hedfan gael eu galw i ddamwain car ym mis Mehefin 2019. Er tristwch mawr, bu farw Olivia Alkir, o Efenechtyd yn y ddamwain ac aethpwyd â Mia Roberts a Sophie Davies i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke i gael llawdriniaeth i achub eu bywydau. 

Dywedodd Sally, sydd wedi bod yn ffrind teulu i fam Sophie am nifer o flynyddoedd: "Gwnaeth yr Ambiwlans Awyr lawer o bethau anhygoel y noson honno, gan gynnwys anfon dau hofrenydd i'r digwyddiad. Roedd Mia a Sophie yn Ysbyty Stoke o fewn 20 munud i'r hofrenydd adael a chafodd y ddwy lawdriniaeth y noson honno." 

Aeth Sally a'i mab Kieran i ymweld â'r merched yn yr ysbyty ychydig o wythnosau ar ôl y ddamwain. Dywedodd fod gweld mam Sophie, Julie, gyda'i mherch fach mewn uned gofal critigol 'wedi torri ei chalon'.  

Ychwanegodd: "Mi es i mewn i'r car i ddod adref y noson honno a dweud wrth fy mab - mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru." 

Mae ffrind i Sally, Manon Wilkinson, sy'n bennaeth y chweched yn Ysgol Bryn Hyfryd, sef yr ysgol y mae'r merched yn ei mynychu wedi bod yn ymuno â hi drwy gydol yr her. Golyga'r cyfyngiadau yn ystod y pandemig bod yn rhaid i Sally a Manon redeg ar wahân ar foreau dydd Sadwrn. 

Wrth sôn am fod ar wahân am 10 wythnos o'r her, dywedodd Sally: "Doeddem ddim yn gallu cwrdd ac roedd hynny'n anodd. Ond gwnaethom gario 'mlaen i redeg, a gyda help ein teuluoedd, fe wnaethom lwyddo! 

"Roedd yn wych cael cyfarfod o'r diwedd, tra'n cadw pellter cymdeithasol, tra'n cerdded a sgwrsio a gweld ein gilydd. Gobeithio nawr y gallwn gwrdd â ffrindiau a theulu ar gyfer yr un olaf, gan gadw pellter cymdeithasol a dilyn llwybr 5k, dathlu blwyddyn anhygoel gyda'r swm anhygoel o arian a godwyd." 

Mae'r ddau deulu wedi bod yn gefnogol o'r digwyddiad codi arian. Mae Mia yn redwraig pellter canolig ei hun, a dyna pam y gwnaeth Sally ddewis her rhedeg fel ei digwyddiad codi arian.  

Nid dyma'r tro cyntaf i Sally godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Cymerodd ran yn Hanner Marathon Caer yn 2017 a chodi £2,000, Ychwanegodd: "Disgynnais mewn cariad â'r Elusen a'r hyn y maent yn ei wneud ac roeddwn yn fwy na hapus i godi arian iddynt unwaith eto. Y tro hwn, cofrestrais fel gwirfoddolwr cofrestredig i'r Elusen hefyd. 

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth mor bwysig ledled Cymru ac yn arbennig mewn ardaloedd fel ein hardal ni sy'n cynnwys rhannau anghysbell iawn. Nid yw'r hofrenyddion yn cael eu galw allan i roi plastr ar friw, maent yno oherwydd bod y digwyddiad yn ddifrifol. Os ydych wedi cael profiad gydag Ambiwlans Awyr Cymru, mae'n debygol o fod wedi bod yn ddigwyddiad trawmatig, personol a'i fod wedi cael effaith arnoch." 

Mae'r cyhoedd wedi bod yn gefnogol iawn drwy'r flwyddyn. Mae pobl wedi stopio Sally yn y stryd i'w llongyfarch ac mae pobl ddieithr hefyd wedi cyfrannu at yr ymgyrch codi arian.  Mae busnesau lleol, sydd wedi bod yn wych yn ôl Sally, hefyd wedi cefnogi'r achos haeddiannol hwn. 

Wrth ystyried faint o arian sydd wedi cael ei godi i'r elusen sy'n achub bywydau, ychwanegodd Sally: "Byddai dweud ein bod wrth ein boddau ddim yn ddigon. Y newyddion mwyaf anhygoel yw y bydd y merched yn dod i'r achlysur olaf, ar ôl gwella'n llwyr, ac mae Mia yn ôl yn rhedeg pellteroedd o 10k." 

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian yr Elusen yn y gogledd: "Mae'n wych clywed sut mae'r gymuned leol wedi cefnogi Sally, Manon a'r merched i godi'r swm anhygoel o £10,705. Rydych i gyd yn gwneud gwaith gwych ac er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, rydych wedi dangos eich dyfalbarhad i wneud 'park run' bob wythnos. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth. 

"Mae'n cynhesu'r galon i glywed bod Mia a Sophie yn parhau i wella a dymunwn yn dda i'r ddwy ohonynt gyda'u hadferiad." 

Os hoffech gyfrannu at yr ymgyrch codi arian, gallwch wneud hynny drwy ymweld â thudalen Just Giving – A parkrun every Saturday for a year in aid of Wales Air Ambulance yma.