Mae cynorthwyydd addysgu o Sir Gaerfyrddin wedi codi £1,375 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gerdded 100km ym mis Mai fel rhan o her Cerdded Cymru yr Elusen.

Rhoddodd Meleri Brown, sy'n fam i ddau o blant, ei hesgidiau cerdded am ei thraed er budd yr Elusen sy'n agos at galon ei theulu ar ôl i feddygon helpu i achub bywyd ei chefnder, Gwyndaf Davies.

 

Dim ond 21 oed oedd Gwyndaf ‘Dafs’ pan gwympodd drwy to adeilad yr oedd yn ei adfer, a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Dywedodd Meleri, sydd o Lanpumsaint:  “Mae'r Elusen hon yn agos at fy nghalon, alla i ddim ei helpu ddigon! Dair blynedd ar ddeg yn ôl, roeddem yn ffodus iawn fel teulu o gael gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru! Cafodd fy nghefnder ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl damwain pan gwympodd drwy to adeilad – mae ein dyled yn fawr i'r gwasanaeth! Hebddynt, byddai pethau wedi bod yn ddrwg ac ni fyddai'r stori wedi bod mor bositif heddiw.

“Oherwydd y gwasanaeth hwn, cafodd ‘Dafs’ ei drin o fewn yr ‘awr aur’ sef yr awr bwysicaf o ran derbyn triniaeth hanfodol! Rydym yn byw mewn ardal wledig sy'n dibynnu'n fawr ar waith Ambiwlans Awyr Cymru, felly mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi'r elusen hon!”

 Mae Cerdded Cymru 2022 – 100km ym mis Mai yn her rithwir sy'n rhoi'r cyfle i ‘gerddwyr’ naill ai fynd allan i grwydro Cymru neu wneud eu stepiau yn y cartref, wrth arddio, mynd â'r ci am dro neu gerdded i fyny ac i lawr y grisiau hyd yn oed!   

Chwaraeodd Gwyndaf ran hefyd yn y gweithgarwch codi arian drwy ymuno â Meleri i gerdded bron 4 milltir o amgylch parc Caerfyrddin fel rhan o'i her.

Nid yw codi arian ar gyfer elusen achub bywydau yn rhywbeth sy'n ddieithr i Meleri – 12 mlynedd yn ôl, cymerodd rhan mewn digwyddiad codi arian mawr drwy gwblhau nenblymiad yn Abertawe ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru – y tro hwn, cadwodd ei thraed yn gadarn ar y ddaear.

Dathlodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi 2022.  Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei Cherbydau Ymateb Cyflym ar y ffordd.

Yn ogystal â bod yn gynorthwyydd addysgu rhan-amser yn Ysgol Cynwyl Elfed, mae Meleri, sy'n byw ar y fferm deuluol, yn therapydd holistaidd sy'n rhedeg ei busnes ei hun o'i chartref.

Mae Meleri yn falch iawn o fod wedi curo ei tharged o £150 ar gyfer yr Elusen. Dywedodd: “Mae cefnogaeth a haelioni ffrindiau a theulu wedi bod yn anhygoel. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o fod yn rhan o'r gymuned! Rwy'n gwybod y bydd y swm hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r Elusen, a fydd yn falch o gael pob ceiniog.”

Mae Meleri, sy'n briod â Mathew ac sy'n fam i Sara, 19 oed, a Cerys, 18 oed, wedi cael cefnogaeth y disgyblion yn ei hysgol hefyd.

Ychwanegodd: “Roedd y plant yn yr ysgol mor hapus i helpu a rhoi anogaeth i fi ar fy milltir olaf. Fe wnaethon nhw gerdded gyda fi o amgylch iard yr ysgol i orffen fy her! Mae'r rhieni wedi bod mor gefnogol hefyd yn cyfrannu tuag at yr achos!

“Diolch eto i bawb sydd wedi cyfrannu, a diolch arbennig i'm teulu am ei holl gefnogaeth sydd wedi golygu fy mod wedi gallu cymryd amser i ffwrdd o'r fferm a'r cartref i ymroi'n llwyr i'r her 100km hon.”

Dywedodd Elin Wyn Murphy, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Meleri sydd wedi llwyddo i gwblhau ei her gyda phythefnos ar ôl, yn ogystal â gweithio, rhedeg fferm a rhedeg busnes. Mae gan Meleri reswm personol dros godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ac mae'r gefnogaeth a'r rhoddion y mae wedi'u cael gan ei ffrindiau a'i theulu yn dangos faint mae'n olygu i Meleri ei bod wedi cwblhau 100km ym mis Mai ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Meleri wedi codi swm anhygoel ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd rhoddion fel hyon yn helpu'r Elusen i fod yno i bobl fel Gwyndaf pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr i ddisgyblion Ysgol Cynwyl Elfed sydd wedi cefnogi Mrs Brown wrth iddi ymgymryd â'r her. Mae pob un ohonyn nhw'n sêr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.   I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.