Mae iard ceffylau cyfryw yn Sir Benfro wedi codi £2,021 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cwblhau hacathon noddedig.

Nod y marchogion, o St Brides Bay Pony Loaning Yard, oedd marchogaeth neu arwain ceffylau a merlod 100 milltir mewn wythnos er budd yr elusen sy'n achub bywydau.

Bu dros 80 o gyfranogion yn marchogaeth neu'n arwain 20 o geffylau a merlod gwahanol fel rhan o ymgyrch ‘Fy20’ yr iard ceffylau cyfryw. Roedd Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain a oedd yn ymwneud â'r rhif '20' i ddathlu pen-blwydd yr Elusen yn 20 oed.

Cymerodd bobl o amrywiaeth o oedrannau gwahanol ran yn yr ymgyrch codi arian, o blant dwyflwydd oed a gerddodd gyda'r merlod Shetland, i bobl 60 oed. Gwnaethant ragori ar eu targed o 100 milltir, y bu'n rhaid ei gyflawni yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, drwy deithio 250 milltir.

Dywedodd Lucy Lewis, o St Brides Bay Pony Loaning Yard: “Rydym yn falch iawn o'r swm a godwyd. Roeddem wedi gobeithio codi £100 a chodwyd £2,021. Cawsom gefnogaeth wych – gwnaeth pob un o'n marchogion gymryd rhan, cyfanswm o 80 o farchogion a phlant bach ar gefn merlod Shetland, a gofynnodd pob un ohonynt i'w teulu a'u ffrindiau helpu drwy gyfrannu rhodd.

“Roeddem am godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd, fel marchogion, wyddon ni ddim pa anawsterau y gallem eu hwynebu, a gan ein bod yn byw yn y rhan hyfryd ac anghysbell hon o Sir Benfro, rydym yn aml yn marchogaeth o gwmpas y traethau a'r llwybrau ceffylau anghysbell, a allai fod yn anodd i rai o'r gwasanaethau brys eu cyrraedd.

“Roedd bod gan y rhan fwyaf ohonom stori i'w hadrodd am rywun rydym yn ei adnabod sydd wedi bod mor ddiolchgar i'r ambiwlans awyr. Cawsom ein synnu i sylweddoli bod yr ambiwlans awyr yn elusen ac yn dibynnu ar gymorth y cyhoedd i ariannu'r gwasanaeth. Cawsom gymaint o hwyl yn ein swigod bach COVID-19 a chafodd y ceffylau amser gwych – doedd dim addysgu'r ceffylau yr wythnos honno, dim ond anturio!”

Llongyfarchwyd pob marchog ar ei ymdrechion a chydnabu St Brides Bay Pony Loaning Yard y marchogion a farchogodd bellaf ac a gododd y symiau mwyaf o arian pan gwblhawyd yr ymgyrch codi arian.

Hallie Rickard gododd y swm mwyaf o arian yn unigol Sian Sobrero a farchogodd y nifer fwyaf o filltiroedd drwy gydol yr wythnos – marchogodd dros 50 milltir ar ei cheffyl benthyg, Tia.

Ffion Lewis aeth am dro ar gefn ei merlen, Toby, am y cyfnod hiraf.

Cododd y cyfranogwyr gyfanswm o £1,665, a chyfranodd St Brides Bay Pony Loaning Yard £356 ychwanegol at y cyfanswm er mwyn iddo gyfateb â'r flwyddyn y cwblhawyd yr her – 2021.

Mae'r marchogion i gyd yn benthyg y merlod o St Brides Bay Pony Loaning Yard. Mae’n iard rhannu a benthyca ‘gyda grŵp o farchogion gwych a chefnogol’.

Wrth edrych yn ôl a sylweddoli cymaint o arian a godwyd ar gyfer yr Elusen, ychwanegodd Lucy: “Roedd helpu elusen mewn cyfnod mor rhyfedd gyda llawer o ansicrwydd yn deimlad mor dda. Roeddem yn falch o ganolbwyntio ar y ceffylau a gwybod y byddem yn helpu elusen mor deilwng.”

Ym mis Rhagfyr 2020, llwyddodd yr Elusen i wireddu ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Mae angen codi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

 

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Llongyfarchiadau i bawb yn St Brides Bay Pony Loaning Yard am gwblhau eu her. I ddechrau, roeddent am godi £100 a gwnaethant ragori ar eu targed drwy godi swm syfrdanol o £2,021 i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae bob amser yn hyfryd clywed am bobl yn meddwl am eu hymgyrch codi arian unigryw eu hunain, fel yr ‘hacathon’. Diolch i bob un ohonoch a gymerodd ran ac a gododd arian hanfodol ar gyfer ein Helusen sy'n achub bywyd. Bydd yr arian rydych wedi'i godi yn ein helpu ni i helpu eraill.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.