Mae mam-gu i ddau wedi codi £1,600 i ddwy elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau ar ôl i ambiwlans awyr ddod i'w helpu wedi iddi gael strôc ym mis Ionawr.

Penderfynodd Joanie Matthews, 64 oed, o Bishops Castle, Swydd Amwythig, drefnu raffl ar-lein er mwyn codi arian i'r elusennau sy'n agos i'w chalon - Ambiwlans Awyr Cymru a'r Ambiwlans Awyr Sirol.

Cymerodd dros 150 o bobl ran yn y raffl byw ar Facebook, a oedd yn cynnwys 33 o wobrau, a rhoddodd sawl person roddion hael hefyd.

Ar ôl bod yn sâl dros y Nadolig gyda symptomau tebyg i'r ffliw, cafodd Joanie strôc ar 19 Ionawr a chafodd ei chludo mewn hofrennydd o'i lleoliad gwledig i ysbyty yn Henffordd.

Cafodd Joanie strôc fach a effeithiodd ar ei hochr chwith. Yn ffodus, gwellodd ei braich o fewn 12 awr a gwellodd ei choes o fewn wythnos.

Er gwaethaf ei strôc, ceisiodd Joanie ddringo'r Wyddfa wyth mis yn ddiweddarach.

Nid dyma'r tro cyntaf i Joanie godi arian i elusennau ambiwlans awyr. Er mwyn nodi ei phen-blwydd ym mis Mai, cododd £1,070 i Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr.

Dywedodd Joanie: “Codais arian i Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr gan mai hwnnw oedd y gwasanaeth a'm cludodd i'r ysbyty. Ond roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig helpu Ambiwlans Awyr Cymru am fod gan yr elusen hofrenfa yn y Trallwng sydd ond 16 milltir i lawr y ffordd o le rwy'n byw – a llawer llai na hynny, mae'n siŵr, mewn milltiroedd awyr.”

Mae Joanie yn falch bod y raffl wedi bod mor llwyddiannus. Dywedodd: “Roeddwn i wrth fy modd â'r ymateb. Rwyf wedi codi arian i wasanaethau ambiwlans awyr ers sawl blwyddyn a byddaf yn parhau i wneud hynny pan fydd yn bosibl. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru mor bwysig i mi gan ein bod yn byw mewn ardal wledig iawn.

Mae'n gyfleuster sy'n achub bywydau, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n gweithio i'r elusennau hyn.”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru: “Diolch i Joanie am godi arian sydd ei angen yn fawr i ddwy elusen bwysig. Fel mae Joanie yn ymwybodol, oherwydd ei lleoliad gwledig, mae'r ambiwlans awyr yn hanfodol. Mae'n hyfryd clywed bod Joanie bellach yn well a'i bod wedi penderfynu codi arian i'r elusen a'i cludodd i'r ysbyty, yn ogystal ag ambiwlans awyr arall cyfagos. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth ac i bawb a roddodd wobr neu a roddodd arian.”