10/07/2020

Mae Linda Jeavons, sy'n hen fam-gu, wedi cwblhau her y byddai llawer o bobl yn ei hosgoi  – sef 30 o farathonau mewn 30 diwrnod!

Drwy gydol mis Mehefin, gwisgodd Linda o Benisarwaen, yn y gogledd-orllewin , ei hesgidiau cerdded yn benderfynol o godi £2,115 ar gyfer dwy elusen, sef Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru.

Bob degawd, mae  Linda, sy'n hanu o Fae Colwyn, yn dathlu ei phen-blwydd drwy gyflawni her.  

Ymhlith ei heriau pen-blwydd blaenorol mae rhedeg Marathon Llundain, dysgu reidio beic modur a  phasio ei phrawf, cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa a seiclo  o Land’s End i John O’Groats. 

Ni wnaeth y cyfyngiadau symud rwystro Linda, sy'n 70 oed, rhag cerdded y pellter mawr hwn. Wrth feddwl am yr her, dywedodd: “Roedd hi'n anodd – roeddwn i'n gwybod y byddai'n anodd – fel arall, ni fyddai wedi bod yn 'her', ond roedd hi ychydig yn anoddach nag oeddwn i wedi ei ddisgwyl!

“Y rhan anoddaf oedd cyrraedd hanner ffordd – diwrnod 15 – byddai rhywun wedi meddwl y byddai hynny'n bwynt da, ond y cyfan roeddwn i'n ei feddwl oedd, 'Rwy'n gwybod pa mor anodd oedd gwneud 15 diwrnod, a nawr mae'n rhaid i mi wneud hynny eto!'!”

Roedd ffrindiau a theulu yn cefnogi Linda a'i hannog bob cam o'r ffordd. Roedd sawl un ohonynt wedi cwblhau rhannau o'r daith gyda hi, gan gynnwys ei gŵr a'i merch a gymerodd eu tro i ddechrau neu orffen y marathon bob dydd gyda hi. 

Drwy gydol y 30 diwrnod, roedd adegau pan ddeffrodd Linda yn ysu am gael dechrau arni ac ar adegau eraill, fel y gellid disgwyl, roedd hi’n llai awyddus.

Rhoddodd Linda gadw-mi-gei ar waelod ei dreif gyda neges yn esbonio ei her a rhoddodd ei chymdogion caredig £200 tuag at yr achos.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r teulu fynd gam ymhellach i gyflawni her. Yn 2018, ei merch, Steph Jeavons , oedd yr unigolyn cyntaf o Brydain i deithio o gwmpas y byd ar ei beic modur Honda. 

Dywedodd ei merch Steph, yn llawn balchder: “Gwnaeth Mam yn rhyfeddol o dda, er gwaethaf y tywydd, o wres tanbaid i wynt a glaw trwm. Nid yw'n naturiol iddi roi'r gorau iddi, ac mae wedi profi hynny a mwy, yn fy marn i. Rwy'n edrych ymlaen nawr at ei chynlluniau ar gyfer ei phen-blwydd yn 80! Da iawn Mam.”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cwblhau marathon yn her enfawr i'r goreuon yn ein plith – mae cwblhau 30 mewn 30 diwrnod yn anhygoel. Llongyfarchiadau Linda ar gyflawni'r her enfawr a blinedig hon. Diolch o galon am godi arian i ddwy elusen bwysig a diolch yn fawr i bawb a wnaeth ei chefnogi yn ystod y marathonau ac am roi arian.”