Mae gyrrwr bysiau o Lanelli, a gaiff ei adnabod fel ‘Mr Selfie’, wedi gosod her arall iddo'i hun sef cymryd hunlun bob dydd am flwyddyn i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cwblhaodd Keith Thomas, o Abertawe’n wreiddiol, her debyg bedair blynedd yn ôl a chodi £3,700 i elusen Marie Curie.

Cafodd y syniad hwn ar gyfer codi arian ei greu gan y tad-cu i saith o blant  gan fod ei hunluniau wedi datblygu i fod yn jôc gyda’i gydweithwyr yn First Cymru. Yn dilyn llwyddiant ei ymgyrch a wnaeth bara dros y flwyddyn, derbyniodd Keith wobr gan Marie Curie am godi arian yn 2017.

Dywedodd Keith, sy’n edrych ymlaen at gwblhau’r her yn 2021: “Fy ymgyrch i godi arian i Marie Curie fu’r ymgyrch unigol fwyaf llwyddiannus hyd yma, a ddatblygodd yn sgil fy niddordeb mewn cymryd lluniau. Mae’r her o gymryd hunluniau wedi fy ngalluogi i gynnwys llawer o bobl o gefndiroedd gwahanol; aelodau o fy nheulu, ffrindiau, cydweithwyr, aelodau o’r cyhoedd, sêr y byd chwaraeon ac enwogion eraill.

“Roedd pawb wrth eu bodd gyda’r her ac roedd llawer iawn o bobl yn gyffrous iawn i gymryd rhan. Mae pobl yn dal i ofyn am hunlun gyda mi hyd heddiw – sy’n egluro fy enw anffurfiol – "Mr Selfie!”

Er bod Mr Selfie wedi gosod targed iddo’i hun i godi £1,000 i’r elusen sy’n achub bywydau, mae’n gobeithio codi mwy o arian.  Bydd yn defnyddio’r un hashnod â’r tro diwethaf – sef #selfie365me.

Wrth sôn am y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel yr elusen i godi arian iddi y tro hwn, dywedodd: “Mae’r ambiwlansys awyr yn elfen hollbwysig o’r gwasanaethau brys yn fy marn i. Rwyf wedi’u gweld ar waith pan oedd fy llysfab yn chwarae rygbi; gwnaethant roi sylw i aelodau o’i dîm ddwywaith ac roedd eu gwaith yn wych.

“Caiff cymaint o fywydau eu hachub yn sgil camau gweithredu cyflym ein gwasanaethau meddygol, ac mae’r ambiwlans awyr yn hollbwysig i’w galluogi i gyflawni eu gwaith gwych.”

Cafodd Keith, a arferai fod yn blymer, ei orfodi i newid ei yrfa yn dilyn salwch a oedd yn ei atal rhag parhau yn y swydd honno. Cafodd ddiagnosis o golitis briwiol yn 2008, a bu'n rhaid iddo gael ei anfon i'r ysbyty ar frys bedair blynedd yn ôl a chael triniaeth fawr i dynnu ei goluddyn.

Wrth drafod ei broblemau iechyd, dywedodd Keith: “Bûm yn ddifrifol sâl ac yn sgil y wybodaeth briodol a dderbyniais am y camau nesaf, penderfynais mai gwell fyddai i mi fyw gyda stoma am weddill fy mywyd. Dydw i ddim yn difaru o gwbwl. Rwyf wedi gallu ailgydio yn fy mywyd ac wedi neilltuo fy amser i fod yn yrrwr o'r radd flaenaf, gan godi ymwybyddiaeth o bobl sy’n byw gydag anableddau cudd a chodi arian i wahanol elusennau ar hyd y daith.”

Mae’r gyrrwr bws brwdfrydig wedi derbyn sawl gwobr, yn cynnwys y Gyrrwr Gorau yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru a gwobr arian yng Ngwobrau Bysiau’r DU yn 2019.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru: “Diolch yn fawr i Keith am ddewis ein helusen ar gyfer ei her dros y flwyddyn. Os gall unrhyw un dynnu hunlun y dydd, ‘Mr Selfie’ yw hwnnw. Bydd ein helusen yn dathlu 20 mlynedd ers iddi gael ei sefydlu yn 2021, ac rydym yn falch iawn bod Keith yn ein cefnogi yn ystod y flwyddyn bwysig hon.

“Mae’n amlwg yn her llawn hwyl ac rwy’n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn ymddangos yn ei hunluniau. Dangoswch eich cefnogaeth i Keith a’i helpu i godi arian sydd mor angenrheidiol er mwyn parhau i redeg ein gwasanaeth 24/7 sy’n achub bywydau. ”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Mr Selfie drwy gymryd hunlun a rhoi arian iddo ar dudalen Her Hunluniau Keith 2021 ar Just Giving.

Gallwch ddilyn Mr Selfie ar ei dudalen Twitter @keiththom2014 neu ei dudalen Facebook, Keith's 2021 Selfie challenge.