12 mis yn ôl, fe brynodd Meinir Howells, sy’n cyflwyno FFERMIO, gyda’i gŵr Gary, heffer ar ran y rhaglen boblogaidd amaethyddol hon. Y syniad oedd bridio gyda hi ac wedyn gwerthu hi fel buwch a llo wrth droed, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at elusen. 

Enwyd yr heffer yn Presila Preseli gan wylwyr y rhaglen, sydd wedi cadw llygaid barcud ar ei hanes ar fferm Meinir a Gary, ym Mhentrecwrt ger Llandysul. O brofi rhag TB i’w sgan gyntaf ac wedyn y geni, ‘Siocled” y llo bach benyw (a enwyd gan Sioned merch Meinir a Gary), mae’r gwylwyr wedi bod yn ffyddlon gan ddangos diddordeb mawr yn yr hanes. 

Roedd yna gyffro mawr yn Mart Llanymddyfri ddydd Gwner diwethaf, wrth i Presila a’i llo cael eu gwerthu am bris anhygoel o £10,000 i deulu Powell, Rhaedar.  Pris a oedd yn record i’r mart a swm anhygoel i Ambiwlans Awyr Cymru. Gyda Banc Barlcays yn cyfrannu £2,000 arall, mae felly £12,000 yn mynd i’r elusen arbennig yma.   

Fe wnaeth FFERMIO dewis rhoi’r arian o’r sialens anarferol hon i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd ei bwysigrwydd wrth achub bywydau o fewn ein cymunedau gwledig. Yn ôl Gwawr Lewis, cynhyrchydd y gyfres: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol ac yn gorfod codi tua £8miliwn bob blwyddyn. Ni’n falch o allu helpu mewn ffordd fach.” 

Hoffai Ffermio roi diolch arbennig i nifer iawn o bobl ond yn gyntaf i Gary, Meinir, Sioned a Dafydd am ofalu am Presila mor arbennig dros y flwyddyn diwethaf, ac am Siocled, a hynny yn rhad ac am ddim!  I deulu Powell, Holidays Wales, Llwyn Gwilym, Rhaeadr am brynu Presila, a hefyd i Banc Barclays am y cyfraniad ychwanegol; Arwerthwr Derfel Harries a Clee Tompkinson Francis am werthu heb gomisiwn; W D Lewis, Llambed am gyflenwi Presila a bwcedi o licks a hefyd iddyn nhw a Dalton ATV’s, Talsarn am fod yn ‘under bidders’ ar y diwrnod.   

Mae FFERMIO yn un o gyfresi hiraf S4C sydd wedi bod yn darlledu ers 1997. Mae pwyslais unigryw y rhaglen ar ffermio a materion gwledig yn denu ffigurau gwylio uchel iawn yn gyson.

Mae ‘Ffermio’ yn gynhyrchiad gan Telesgop i S4C.