Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael ei dewis fel prif bartner elusen i Krazy Races, y rasys mewn bocs sebon cenedlaethol poblogaidd sydd am ddim, a fydd yn cymryd Abertawe drosodd fis Mehefin nesaf.

Mae'r digwyddiad rasio mewn bocs sebon cenedlaethol llwyddiannus yn gweld cymysgedd o dimau o fusnesau lleol, yn adeiladu a rasio bocsys sebon gwirion a rhyfedd drwy ganol trefi a dinasoedd gan godi arian i elusennau lleol.

Bydd yn digwydd yn Abertawe ddydd Sul 18 Mehefin 2023 ac yn anelu at ddenu miloedd o bobl i mewn i'r ddinas. Ardal Gwella Busnes Abertawe (Bid) yw prif noddwyr y digwyddiad. 

Pan ymwelodd Krazy Races â chanol dinasoedd sir Amwythig, sir Gaer a Wolverhampton yr haf hwn, daeth bron i 50,000 o bobl allan i gefnogi'r digwyddiadau am ddim. Ers i'r digwyddiad ddechrau yn 2018, mae Krazy Races wedi codi dros £40,000 i elusennau ac achosion lleol.

Mae pob tîm sy'n mynd mewn i focs sebon yn codi arian i elusen sy'n agos at eu calonau gyda'r digwyddiad yn cefnogi prif bartner elusen sydd â phresenoldeb mawr ar y diwrnod ac yn arwain ato.

Dywedodd Sarah Belcher, Sylfaenydd Krazy Races: “Mae ein digwyddiadau Krazy Races yn ymwneud yn gyfan gwbl â chodi cymaint o arian i elusennau lleol â phosibl a rhoi diwrnod ardderchog i deuluoedd am ddim. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n prif bartner elusen i helpu i'w integreiddio i galon y digwyddiad, gan roi cymaint o gyfleoedd â phosibl iddynt godi cymaint o arian ag y gallant! Mae ein digwyddiad yn ymwneud yn gyfan gwbl â swyno a rhoi profiadau unigryw i bobl o bob oedran ac rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gydag elusen mor anhygoel ar gyfer ein digwyddiad Krazy Races cyntaf erioed yng Nghymru.”

Eleni sefydlodd Krazy Races bartneriaeth â'r elusen genedlaethol Cymorth Canser Macmillan ar gyfer
eu digwyddiadau haf i gyd. Galluogodd y bartneriaeth i'r elusen gasglu a derbyn arian drwy sawl ffrwd refeniw gan gynnwys rhoddion maes parcio, arian pamffledi digwyddiadau, yn ogystal â channoedd o bunnoedd drwy werthu cacennau a raffl.

Dywedodd Siâny Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym mor falch a chyffrous o fod yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm yn Krazy Races. Mae hwn yn ddigwyddiad hollol newydd i Abertawe a bydd yn darparu adloniant anhygoel i'r gymuned leol yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i'n Helusen.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu rhai o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau. Rydym yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i Krazy Races am eu cymorth ac yn edrych ymlaen at y digwyddiad”.

Am ragor o wybodaeth neu i roi cynnig mewn tîm ewch i www.krazyraces.co.uk