Mae mam i ddau o blant o Sir Benfro wedi cwblhau ei her a barodd bron blwyddyn i redeg Llwybr Arfordir Cymru yn rhithwir mewn dim ond 10 mis!

Mae Jess Mackeen, sy'n 39 oed, wedi codi £1,840 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy redeg 870 o filltiroedd fel rhan o ‘Her Llwybr Arfordir Cymru 2 - Rhedeg o Un Pen i'r Llall’.

Dechreuodd Jess, sy'n oruchwylydd amser brecwast ac amser cinio mewn ysgol gynradd, ei her ar 13 Mehefin 2020 a'i gorffen ar 8 Mai 2021.

Mae Jess, sy'n fam i Faith a Leo, wedi hen arfer â chodi arian ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau, ar ôl iddi nenblymio fesul dau a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn bore coffi.  Mae Jess bellach wedi codi cyfanswm o £6,044 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Jess, yn llawn balchder: “Roedd her llwybr arfordir Cymru 'O Un Pen i'r Llall' yn anodd ar brydiau, am fod gen i flwyddyn i gwblhau'r 870 o filltiroedd, ond rhoddais y pwysau ychwanegol arna i fy hun o osod nod i redeg bob milltir.

“Roedd yn wych i'm cael i allan yn rhedeg ar ddyddiau y mae'n debyg na fyddwn wedi trafferthu mynd, megis dyddiau pan gawsom law trwm.

“Hoffwn fod wedi cwblhau'r her o fewn naw mis. Fodd bynnag, ni aeth pethau yn ôl y bwriad o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud a rhwystrau eraill – ond llwyddais i'w chwblhau mewn 10 mis.”

Mae Jess, sy'n dweud ei bod yn cael ‘teimlad ewfforig bob tro ar ôl iddi redeg’, yn gobeithio codi £160 ychwanegol ar gyfer y digwyddiad codi arian hwn er mwyn codi cyfanswm o £2,000.

Mae Jess, sy'n 39 oed o Hwlffordd, wrth ei bodd ei bod wedi cyrraedd ei tharged codi arian o £5,000 ar gyfer yr Elusen fel rhan o’i rhestr o bethau ‘i’w gwneud cyn fy mod yn 40 oed’.

Mae'n ddiolchgar iawn i'w ffrindiau a'i theulu am eu cymorth parhaus, gan ychwanegu: “Mae'r gefnogaeth a gefais wedi bod yn anhygoel.Rwy'n ffodus iawn i gael teulu a ffrindiau sydd mor wych a chefnogol – maent yn fy nghefnogi dro ar ôl tro drwy fy noddi a phrynu fy nanteithion i godi arian.  Mae fy nheulu a'm ffrindiau wedi fy annog, ac mae'r gefnogaeth a gefais wrth redeg wedi bod yn wych ac rwy'n ei gwerthfawrogi'n fawr.

“Rwyf wrth fy modd â'r swm o arian a godwyd. Mae'n fy ngwneud yn fwy diolchgar byth am gariad a chefnogaeth fy nheulu a'm ffrindiau.”

Wrth feddwl am y rheswm dros ddewis yr elusen hon sy'n achub bywydau, dywedodd Jess: “Mae'n elusen hynod deilwng, yn fy marn i, a wyddech chi ddim pryd y bydd angen i chi, eich teulu neu eich ffrindiau ei defnyddio. Mae'n wasanaeth hanfodol, o ystyried bod rhannau o Gymru mor anghysbell. Mae'r gwasanaeth yn achub cymaint o fywydau.   

“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynd i ganolfan yr Elusen yn Nafen ddwywaith ac mae'r gwaith wedi creu cryn argraff arnaf. Ers i mi godi arian ar gyfer yr Elusen, mae pobl wedi dweud wrthyf na fyddai ei hanwyliaid yma heddiw heb ymateb cyflym criw Ambiwlans Awyr Cymru.” 

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Rydym yn falch iawn bod Jess wedi llwyddo i ragori ar ei tharged o godi dros £6,000. Er gwaethaf y cyfyngiadau a'r heriau eraill a wynebodd Jess drwy gydol yr her, cwblhaodd yr 870 o filltiroedd mewn dim ond 10 mis, sy'n anhygoel. Mae Jess yn godwr arian ardderchog ar gyfer yr Elusen ac yn parhau i fod eisiau codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch yn fawr iawn, Jess. Bydd yr hyn rwyt ti wedi'i wneud, a'r arian rwyt ti wedi'i godi, yn ein helpu ni i helpu eraill ledled Cymru.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Jess o hyd drwy roi arian i'w digwyddiad codi arian drwy ei thudalen  Just Giving ‘Jess's end to end run. Wales coast path virtual run 870 miles page’.