11/08/2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi mai Ambiwlans Awyr Cymru fydd ei Helusen y Flwyddyn ar gyfer 2020-21.

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn y Brifysgol yw codi cymaint o arian â phosib i achos da bob blwyddyn, a rhoi ffocws i staff, myfyrwyr a’r gymuned ar gyfer codi arian.

Cafodd yr elusen ei dewis yn dilyn proses o enwebiadau a phleidleisio gan fyfyrwyr a staff ledled y Brifysgol.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mi fydd yn bleser i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy gydol y flwyddyn i ddod. Dyma’r trydydd tro iddi gael ei dewis fel ein Helusen y Flwyddyn, sy’n brawf o’r parch mawr sydd gan staff a myfyrwyr at y gwasanaeth achub bywyd hwn.

“Mewn cymunedau gwledig fel Ceredigion, mae Ambiwlans Awyr Cymru’n darparu gwasanaeth achub bywyd hanfodol, a bydd yn fraint i chwarae ein rhan yn eu cynorthwyo i gadw eu hofrenyddion yn hedfan ac yn achub bywydau.”

Dywedodd Andrew Hall, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae’r gefnogaeth barhaus rydyn ni, fel elusen sy’n achub bywydau, yn ei derbyn gan Brifysgol Aberystwyth yn destun gwyleidd-dra. Fel un o’r sefydliadau addysg uwch hynaf ac sy’n cael ei hedmygu fwyaf yn y DU, mae gennym barch mawr at y Brifysgol a’i chyfraniad i Gymru a thu hwnt.

“Mae codi arian wedi dod yn heriol ers COVID-19 ac rydyn ni’n disgwyl i hyn barhau am beth amser wrth i effeithiau hirdymor y pandemig gael eu teimlo. Mae’n hwb mawr i ni felly, a hynny ar adeg anodd, i ni glywed mai ni yw elusen y sefydliad am y flwyddyn.

“I’r Is-Ganghellor, staff a myfyrwyr, allwn ni ddim diolch digon i chi. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i gadw ein hofrenyddion yn hedfan er mwyn sicrhau ein bod yn medru darparu gofal brys o safon mewn argyfyngau, sy’n hynod o bwysig yng nghefn gwlad Cymru.”