Mae dyn sydd wedi ymddeol o Benarth wedi herio ei hun i yrru ei gar clasurol MGC GT i bob un o bedwar safle Ambiwlans Awyr Cymru mewn un diwrnod!

Bydd Ed Griffith yn cwblhau taith o tua 400 milltir yn ei gar clasurol ar gyfer ei her ‘O Wawr hyd Fachlud’. Bydd yn cychwyn o'i gartref ym Mhenarth ac yn ymweld â safleoedd Llanelli, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.

Mae Ed yn hen law ar godi arian; yn 2018 cododd dros £2,000 i elusen Beiciau Gwaed Cymru drwy yrru ei MG, a oedd yn hanner cant oed ar y pryd, i bedwar ban Cymru mewn un diwrnod.

Bydd Ed yn talu'r holl gostau ei hun, felly bydd pob ceiniog a roddir yn mynd i'r elusen sy'n achub bywydau. Mae'n gobeithio codi o leiaf £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd: “Fel aelod o Glwb Perchnogion MG Pen-y-bont ar Ogwr, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un o deithiau elusennol blynyddol ‘O'r Cwm i'r Arfordir’ y clwb yn fy nghar clasurol MGC GT dros y blynyddoedd.  Un o'r prif elusennau rydym yn eu cefnogi yw Ambiwlans Awyr Cymru, am ein bod wedi dod i'r casgliad beth amser yn ôl y gallai fod angen i unrhyw un ohonom alw ar y gwasanaeth hollbwysig hwn ar unrhyw adeg. Yn anffodus, o ganlyniad i gyfnodau clo COVID-19, nid ydym wedi gallu cynnal taith ‘O'r Cwm i'r Arfordir’ dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac felly nid ydym wedi gallu casglu arian i'r elusen haeddiannol hon.

“Fodd bynnag, gan fod yr elusen wedi dechrau cynnig gwasanaeth 24/7, mae angen iddi godi £1.5 miliwn yn rhagor bob blwyddyn. Felly, penderfynais y byddwn yn ceisio codi arian i'w helpu.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Dywedodd Ed, yn benderfynol: “Gyda’n gilydd, mae fy nghar a finnau'n 125 oed felly fydd hi ddim yn hawdd, i mi nac i'r car!   Mae'n debygol y bydd mwy o draffig ar y ffyrdd nawr bod y cyfnod clo wedi dod i ben, sy'n cymhlethu pethau, ac ychydig iawn o'r siwrnai fydd ar draffordd, felly mae'n bosibl y bydd y daith yn araf.”

Bydd Ed yn dechrau ar ei daith ddydd Mercher 15 Medi, os bydd y tywydd a Llywodraeth Cymru yn caniatáu.

Mae rhesymau eraill gan Ed dros ddewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae ei frawd yn beilot hofrenyddion a fu'n hedfan hofrennydd Ambiwlans Awyr Dyfnaint am gyfnod. Hefyd, fel cyn Brif Swyddog Sgwadron Gleidio Gwirfoddol 634 yn Sain Tathan, lle y bu'n addysgu cadetiaid awyr i hedfan, anfonodd Ed y Sgwadron i Faes Awyr Abertawe yn 2008, lle y bu'n rhannu sied awyrennau â hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Ed yn dal i gadw mewn cysylltiad â llawer o'i gyn-fyfyrwyr a hyfforddwyr sydd wedi parhau i hedfan yn broffesiynol, ac mae un ohonynt bellach yn hedfan hofrenyddion y lluoedd arfog.

Pan ofynnwyd i Ed a yw'n edrych ymlaen at her ‘O Wawr hyd Fachlud’, dywedodd: “Ydw a nac ydw! Anesmwythder, am fod y daith yn hir a dydw i ddim wedi gyrru mor bell â hynny ers y llynedd, ond rwy'n edrych ymlaen hefyd am fy mod i'n dwlu ar yrru fy MG!”

Dywedodd Elin Murphy, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Mae Ed wedi herio ei hun i yrru i bob un o'n safleoedd yng Nghymru mewn un diwrnod. Mae'n her enfawr, ond mae'n benderfynol o'i chwblhau yn ei gar clasurol. Diolch am godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau, a phob lwc gyda her ‘O Wawr hyd Fachlud’. Bydd pob ceiniog a godir gennych yn helpu'r bobl sydd ein hangen ledled Cymru.”

Gallwch gefnogi Ed drwy roi arian ar ei dudalen codi arian – Ed's Dawn to Dusk Challenge.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.