05/05/2020

Mae menyw o Abertawe wedi dweud sut y cafodd ei hysbrydoli i greu darn o waith celf trawiadol er budd Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r elusen roi gofal brys i aelod o'i theulu.

Mae'r artist Sarah Hopkins o Abertawe wedi creu 15 o brintiau i'w gwerthu er budd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Testun diweddaraf gwaith yr artist a'r gwneuthurwr printiau, a gymerodd sawl diwrnod i'w greu, yw'r wal o graffiti sydd newydd gael ei baentio yn Rec Abertawe.

Caiff y 15 o brintiau sgrin eu creu drwy haenu blociau o liw a phrintio drwy stensiliau papur wedi'u torri â llaw. Yna, cânt eu printio ar bapur Rosapina 285gsm. Mae pob llun wedi'i greu gan ddefnyddio 14 o stensiliau ar wahân, gyda phob un ohonynt wedi'u hiawnlinio'n ofalus ar ben ei gilydd.

Bydd 100% o'r elw yn mynd i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.  

Dywedodd Sarah, sy'n dod o Uplands: "Mae'n cyfleu neges bwysig ac yn ein hatgoffa o'r sefyllfa bresennol o fod dan gyfyngiadau symud o hyd.  Cefais fy ysbrydoli i gofnodi'r foment drwy greu darn o waith celf i atgyfnerthu a rhannu'r un neges.    

"Rwy'n credu ei bod yn hanfodol nad ydym yn colli momentwm ac yn aros gartref lle bynnag y bo'n bosibl i ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a'r GIG."

 Dadorchuddiwyd y gwaith celf i godi arian yr wythnos ddiwethaf ac mae llawer wedi dangos diddordeb ynddo. Mae Sarah wedi cael nifer o negeseuon cadarnhaol gan deulu, ffrindiau a phobl sy'n dilyn ei gwaith drwy ei thudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan y cyfarwyddwr cynnydd yng Ngholeg Sir Gâr reswm personol dros godi arian i'r elusen.

Dywedodd: "Yn ddiweddar, roedd angen Ambiwlans Awyr Cymru ar aelod o'n teulu estynedig mewn argyfwng, ac achubodd y gwasanaeth ei fywyd. Rydym i gyd yn hynod o ddiolchgar. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod nifer o elusennau yn colli eu ffrydiau ariannu arferol oherwydd y ffocws dealladwy ar y Coronafeirws."

Mae Sarah wedi bod yn artist wrth ei gwaith ers 1987 – sefydlodd stiwdio yn Salubrious Passage, Abertawe, ar ôl iddi adael yr ysgol gelf. Gweithiodd yno yn llawn amser am dair blynedd, gan arddangos ei chelf mewn orielau lleol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar dirweddau trefol a thirweddau o waith dyn, a threftadaeth ddiwydiannol De Cymru.

Mae gan Sarah stiwdio gartref erbyn hyn, ac mae'n defnyddio Gweithdy Argraffu er mwyn cynhyrchu argraffiadau. Mae hefyd yn defnyddio ei thalent i addysgu celf a dylunio, tecstiliau, dylunio ar gyfer y theatr, a dylunio a thechnoleg i fyfyrwyr o bob oedran.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Sarah am ei haelioni anhygoel wrth greu a gwerthu ei gwaith print ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd 100% o'r elw a godir yn sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Hoffwn ddiolch i Sarah am feddwl am yr elusen yn ystod yr adegau anodd hyn, ac i bawb sydd wedi prynu ei gwaith celf."

 Gallwch weld gwaith celf Sarah yma

Ambiwlans Awyr Cymru yw dewis elusen Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Byddant yn cynnal raffl ar gyfer un o brintiau Sarah i godi mwy o arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Just giving yr elusen yma.